- Chi Ydi Diwylliant Conwy!


Beth ydyn ni'n ei wneud?

  • Mae Amdani! Conwy yn brosiect newydd sy’n cefnogi lleoliadau diwylliannol a threfnwyr digwyddiadau ac yn gweithio gyda’n cymunedau i wneud y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yn hwyl, yn hygyrch ac yn gynhwysol.
  • Mae Amdani! Conwy yn creu cyfleoedd gwirfoddoli i bobl leol gymryd rhan yn y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth. Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth ymuno!
  • Fel gwirfoddolwr, byddwch yn gallu cwrdd â phobl o gefndiroedd gwahanol, datblygu sgiliau newydd, a dysgu oddi wrth artistiaid a gweithwyr proffesiynol lleol.
  • Fel rhan o Bartneriaeth Creu Conwy, mae Amdani! Conwy yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, CGGC (Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy) a Chelfyddydau Anabledd Cymru i gyflawni Creu’r Sbarc – Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Sir Conwy 2021-2026.
  • Mae Amdani! Conwy yn brosiect peilot sydd wedi’i ariannu’n hael gan Ysbryd 2012: Cronfa Dinasoedd Gwirfoddoli a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Y Tîm

JASMINE PILLING

Jasmine ydw i, Rheolwr Rhaglen Gwirfoddolwyr Amdani Conwy! Mi fydda i’n gyfrifol am greu a datblygu rhaglen wirfoddoli gynhwysol a diddorol newydd ar gyfer Conwy, ochr yn ochr â David sy’n Swyddog Mynediad a Chynhwysiant.

Mae gen i gefndir mewn newyddiaduriaeth darlledu, ond yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf rydw i wedi bod yn ymwneud llawer â gweithgareddau gwirfoddoli a rheoli yn y trydydd sector. Rydw i hefyd wedi gwirfoddoli fel cyflwynydd radio ar gyfer Bayside Radio a dw i’n frwdfrydig iawn dros y byd gwirfoddoli! Felly dw i’n hynod gyffrous i ddechrau adfer gwirfoddoli a gwneud gwirfoddoli yn fwy hygyrch, cynhwysol a HWYL!

DAVID CLEARY

David ydw i a fi ydi Swyddog Mynediad a Chynhwysiant Amdani Conwy! drwy Disability Arts Cymru. Byddaf yn gweithio gyda Jasmine i agor Amdani Conwy! i’r gymuned ehangach. Fy ngwaith i ydi cynnal gofod lle gall cymysgedd o leisiau gwahanol (llafar a di-eiriau) helpu i siapio Amdani! a chynnig cymorth ychwanegol i wneud i’r prosiect weithio i’r rheiny sydd ei angen.

Symudais i Gonwy yn 2021 o Hull, fy nhref enedigol, a dw i wedi bod yn gweithio mewn orielau fel curadur sy’n arbenigo mewn prosiectau dysgu a chydweithio rhwng artistiaid a chymunedau. Rydw i’n edrych ymlaen at archwilio dulliau newydd o ddod â phobl at ei gilydd gyda chreadigrwydd a diwylliant.


Sut fedrwch chi gymryd rhan?

  • Byddwn yn cyhoeddi manylion ynghylch sut fedrwch chi gymryd rhan yn fuan iawn. Felly cadwch olwg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.

Facebook: https://facebook.com/diwylliantconwyculture

Twitter: diwylliantconwy

Dod yn Gefnogwr Gwirfoddol

Conwy Culture | Amdani! Conwy

Sut i gofrestru

Ffurflen Disgrifiad o Rôl Gwirfoddolwr

 

 

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397