Clwb Pel-droed Cerrigydrudion

Daeth y clwb I drafod eu prosiect gyda Rheolwr y gronfa yn fuan er mwyn cael arweiniad.

Penderfynodd y clwb i ymgeisio i’r gronfa mewn 2 gam ar gyfer eu prosiect ‘Gwelliannau i gyfleusterau Cae Pêl-droed ag Adnoddau’:

  1. Gosod Goliau newydd, Nets, Peiriant marciau ac offer cyffredinnol I’r clwb
  2. Gosod rhwystrau torf (‘spectator barriers’) o amgylch y cae a gosod manau cysgodol symudol I’r timoedd.

Rhwng y ddau gam, fe wnaeth Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog fuddsoddi cwta £35,000 yn y clwb sydd yn swm sylweddol i glwb bach yng nghefn gwlad Sir Conwy, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r clwb:

Mae’r brosiect yma wedi gwneud dipyn o wahaniaeth i’r clwb ag i’r gymuned lleol. Mae’r cyfleusterau a safon y cae wedi codi sydd yn atyniad i’r chwaraewyr a’r hyffordwyr yn ogystal a chefnogwyr hen a newydd! Hoffem ddiolch i swyddogion y gronfa am y cymorth i wneud y cais yn un llwyddiannus. Hefyd rydym yn falch o’r gefnogaeth a gawsom gan y Sir, Ysgol, Ganolfan a’r busnesau lleol i wneud hyn yn bosibl.”

– Gareth Lloyd, Aelod o’r clwb

O ganlyniad i’r cyllid yma maent wedi gallu cael dyrchafiad i Haen 4 cynghrair pel-droed Cymru, ac yn parhau i ffynnu.

Mae ambell i aelodau newyddwedi ymuno gyda’r clwb oherwydd eu bod yn chwarae a’r lefel uwch a bod criw da o chwaraewyr lleol. Mae chwaraewyr ifanc o’r ardal wedi ail ymuno gyda’r clwb ac maent yn edrych ymlaen i groesawu mwy o rhai ifanc yn y blynyddoedd i ddod. Hefyd maent wedi recriwtio dau hyfforddwyr newydd i ehangu y tim hyfforddiant roedd ganddynt yn barod. Mae mwy o gefnogwyr yn dod I wylio y gemau erbyn hyn gyda 80 wedi troi fyny I gem gwpan.

Mae’n gyfle arbennig i’r to iau gael gweld unigolion lleol yn chwarae’r gem ac yn eu hysbrydoli i ymuno yn y dyfodol. Canlyniad arall i welliannau’r cae ydi fod rhai o’r tim Ieuenctid yn ysu I gael ail ddechrau’r ymarferion, ac wrth gael hyfforddwyr newydd maent yn gobeithio gallu cynnig y sessiynnau o flwyddyn 1 ymlaen.

Dangosir hyn werth arbennig mewn arian gan fod y clwb ar clwb Ieuenctid yn cyd-weithio i gael y gorau I bel-droed yn ardal Cerrigydrudion.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397