CAIS

Paciwr / Gyrrwr Gwirfoddol yn Gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Cronfa Galedi’r Coronafeirws CAIS

Cysylltodd Steve â CGGC am gael gwaith gwirfoddol a chafodd ei gyfeirio at CAIS fel gyrrwr bws mini. Oherwydd argyfwng COVID-19, dewisodd fod yn yrrwr gwirfoddol ar gyfer gwasanaeth cronfa galedi CAIS.CAIS 2Steve yn gwagio’r fan yn barod i lenwi’r bagiau bwyd.

Mae Sian, sydd hefyd yn gwirfoddoli gyda CAIS, yn helpu Steve i baratoi’r bagiau bwyd ar gyfer eu dosbarthu.

Cyllidwyd y fan yn rhannol gan Gynllun Grantiau Bychain Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr, hyd at £10,000, y mae Neil Pringle o CGGC yn ei reoli. Er bod y fan yn cael ei defnyddio’n bennaf gan Gaffi Porter, mae hefyd wedi cael ei defnyddio gan wasanaeth y gronfa caledi yn ystod y cyfnod digynsail yma.

Mae gwirfoddolwyr CAIS nid yn unig yn cael PPE wrth wirfoddoli, ond hefyd diolch i Gronfa Ymateb i Covid Gwynt y Môr, maent hefyd wedi cael eu PPE eu hunain ar gyfer teithio i ac o’r llefydd lle maen nhw’n gwirfoddoli.                             

Dyfyniad gan Steve – ‘Diolch am becyn teithio PPE CAIS. Fel aelod o’r tîm rydw i’n gweld yn uniongyrchol yr help mae ein hymdrechion ni’n ei sicrhau i lawer o bobl.’

Dyfyniad gan Sian – 'Fel gwirfoddolwr mae’n braf cael jel dwylo ar gyfer fy nefnydd personol a hefyd masgiau wyneb tafladwy pan rydw i’n mynd i swyddfa CAIS i wneud fy ngwaith gwirfoddol.'

CAISCeri Jones, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli CGGC gyda Gwirfoddolwr CAIS, Steve (chwith) a Chyswllt Cyflogwyr a Gwirfoddolwyr CAIS, Wendy Williams (dde).Mae'r gwasanaeth wedi ehangu y tu hwnt i ardal Conwy. Yr oriau gwirfoddoli sydd wedi’u cwblhau ers 23ain Mawrth 2020 hyd yma: -

Cefnogaeth drwy barseli bwyd argyfwng - 88 awr  

Gyrrwr dosbarthu - 40 awr 

Siopwr – 62.75 awr 

Darparwyd yr ystadegau hyn gan Claire Jones, Rheolwr Prosiect CAIS a ddywedodd, ‘Ers Mawrth 23ain, mae Gwirfoddolwyr CAIS wedi rhoi 913 o oriau o’u hamser, cyfartaledd o 48 awr yr un!

CAIS 3Sampl fechan o’r bwyd mae CAIS yn ei ddosbarthu.                                                                                                     

 

Dywedodd Claire Jones, Rheolwr y Prosiect, ‘Mae ein gwirfoddolwyr ni wedi bod yn anhygoel drwy gydol y flwyddyn yma. Nid yn unig y rhai sydd wedi ein helpu ni i ddarparu ein gwasanaethau yn ystod Covid 19, ond hefyd y rhai sy’n aros yn amyneddgar am gael dod yn ôl i’w rôl.’

Dywedodd Ceri Jones, y Swyddog Datblygu Gwirfoddoli, ‘Mae gan Dîm Gwirfoddoli CGGC berthynas waith agos â CAIS, ac roedd yn braf cyfarfod Steve a Sian, a chael gwybod am y gwirfoddoli gwych maen nhw’n ei wneud, da iawn i’r ddau ohonyn nhw!’

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397