Youth Shedz

Cyflwynwyd tystysgrifau diolchgarwch Gwirfoddoli CGGC i wirfoddolwyr Youth Shedz, John Roberts, Angela Lloyd a Sonia Nicholson. Gyda'i gilydd, maent wedi cefnogi Youth Shedz gyda thua 250 o oriau o wirfoddoli, gan gynnal cwisiau a sgyrsiau a chadw mewn cysylltiad â’r ieuenctid yn ystod y cyfnod clo... yn ogystal â mynychu Siediau sydd wedi ailagor ers yr Hydref yn gyson i sicrhau bod gweithgareddau ar gael.

Mae hyn wedi cynnwys datblygu Shed Space ym Mlaenau Ffestiniog (lle tynnwyd y llun yma!), a gwneud rhywfaint o waith allgymorth gyda phobl iau yno, yn rhoi sylw i ddiogelwch ar feiciau yn y nos, a hefyd cynlluniau cyffrous ar gyfer casglu sbwriel a phlannu coed ar gyfer y gymuned!

Ers hynny mae'r gwirfoddolwyr Angela Lloyd a Sonia Nicholson wedi dechrau 8 awr o gyflogaeth gyda thâl gyda Youth Shedz.

O’r Chwith I’r Dde - Angela Lloyd (gwirfoddolwr) John Roberts (gwirfoddolwr), Sonia Nicholson (gwirfoddolwr), Melissa Evans (Youth Shedder ym Mlaenau Ffestiniog), Scott Jenkinson (Sylfaenydd Youth Shedz Cymru) a Martin Harrison (Cadeirydd ac Ymddiriedolwr Youth Shedz Cymru)

Sonia Nicholson, Gwirfoddolwr gyda Youth Shedz, -

‘Er bod hon wedi bod yn flwyddyn anodd iawn, rydw i wedi tyfu’n bersonol ac mae YouthShedz wedi helpu gyda hynny.’

Scott Jenkinson, Sylfaenydd Youth Shedz, -

‘Heb ein gwirfoddolwyr, ni fydden ni wedi gallu goroesi eleni gan ei fod wedi bod yn gyfnod mor galed i bawb ac rydw i mor ddiolchgar iddyn nhw.’

Ceri Jones, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli yn CGGC, -

Mae wedi bod yn wych gweithio'n agos gyda Sian, Cydlynydd Gwirfoddolwyr gyda Youth Shedz, yn datblygu eu polisïau gwirfoddoli a hefyd cael gwybod am y gwaith rhagorol mae Youth Shedz yn ei wneud ar ran pobl iau!

Edrychwch ar y cyfleoedd gwirfoddoli sydd wedi'u cofrestru gyda Youth Shedz: www.volunteering-wales.net

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397