Nathania Minard – Siwrnai Gwirfoddoli

Dechreuodd Nathania ar ei siwrnai gwirfoddoli am y tro cyntaf fel cynorthwy-ydd chwarae gwirfoddol ar gynllun chwarae Haf CGGC (Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy).

Roedd Nathania yn dod o gefndir o chwaraeon ac addysg awyr agored, ac mae ganddi hoffter cynhenid o chwarae, ond nid oedd erioed wedi ymgymryd â dysgu ffurfiol yn gysylltiedig â chwarae. Drwy ddysgu am chwarae a gwaith chwarae ac wedyn rhoi'r hyn roedd wedi'i ddysgu ar waith yn ystod cynllun chwarae'r haf, daeth Nathania yn ymroddedig i chwarae a gwaith chwarae.

Roedd Nathania eisiau datblygu hyn ymhellach a gwnaeth gais am swydd ran-amser, dros dro, fel Gweithiwr Datblygu Chwarae. Ar ôl dysgu a datblygu dull gwaith chwarae o weithredu yn y swydd dros dro yma, gwnaeth Nathania gais wedyn am y rôl o gydlynu'r cynlluniau chwarae a chwblhaodd y cymhwyster Rheoli Cynlluniau Chwarae Gwyliau. Yn dilyn llwyddiant y cynlluniau chwarae, sicrhaodd Nathania swydd Datblygu Chwarae lawn amser wedyn. Yn y rôl hon, ymgymerodd Nathania â'r Dyfarniad mewn Darparu Hyfforddiant Gwaith Chwarae Deinamig er mwyn deall yn well y ddarpariaeth hyfforddiant gwaith chwarae. Wedyn cafodd Nathania ei dyrchafu i rôl Prif Swyddog Chwarae yng Nghonwy, ac er mwyn parhau â'i siwrnai ddysgu, ymgymerodd â'r cwrs Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant (AET) i'w galluogi i asesu a chyflwyno cymwysterau Dysgu Oedolion Cymru.

Meddai Nathania -

'Rydw i wir yn credu ym mhŵer chwarae, a'i fod yn anhepgor nid yn unig i blant, ond i ddatblygiad cenedlaethau'r dyfodol a'n cymdeithas ehangach ni. Rydw i'n gobeithio codi ymwybyddiaeth a sbarduno ac ysbrydoli eraill i wella cyfleoedd chwarae i blant a chyfoethogi ymarfer gwaith chwarae.

Yn fy swydd, rydw i’n defnyddio llawer o'r sgiliau ddysgais i er mwyn eirioli a chefnogi chwarae plant. Er enghraifft, darparu cyrsiau magu plant yn rhoi sylw i amser, caniatâd a gofod. Mae'r cymwysterau rydw i wedi'u hennill wedi arwain at gyfleoedd cyflogaeth i mi ac felly, yn eu tro, maen nhw’n gwella lles fy nheulu.

Mae CGGC wedi rhoi cefnogaeth barhaus i mi yn ystod fy ngwaith gwirfoddoli a'm cyflogaeth yn y trydydd sector, yn ogystal â mynediad at ddysgu a datblygu parhaus. Doeddwn i erioed yn meddwl y gallwn i wneud rhywbeth rydw i'n teimlo mor angerddol amdano, yn ei fwynhau ac yn credu ynddo hefyd, a gwneud gyrfa ohono.

Mentrwch, dydych chi byth yn gwybod pwy wnewch chi eu cyfarfod, beth wnewch chi ei ddysgu, a ble all fynd â chi!

Dywedodd Ceri Jones, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli yn CGGC -

"Enghraifft wych o gael profiad uniongyrchol ac ysbrydoliaeth drwy wirfoddoli, a arweiniodd wedyn at gyflogaeth â thâl, siwrnai gyda phawb ar eu hennill!

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu diddordebau a sgiliau newydd, cysylltwch â ni yma yn CGGC……”

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397