Mae Diogelu yn Fater I Bawb
Neges gan Jenny Williams, Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol ac Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
“Rydym yn gofyn ichi gadw llygad am eich gilydd er mwyn helpu'r rhai a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso. Mae'r neges hon yn berthnasol bob amser, ond nawr yn fwy nag erioed, mae angen amddiffyn pobl o bob oed.
Rydym mewn amseroedd eithriadol ar hyn o bryd o ganlyniad i coronavirus a'r cyfnyngiadau symud. Er y bydd hyn, heb os, yn helpu i atal y firws rhag lledaenu, yn anffodus, gallai plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygyl o fewn Conwy fod mewn mwy o berygl o gam-drin ac esgeulustod.
Byddwch yn wyliadwrus a chadwch lygad am ffrindiau, teuluoedd a chymdogion, ac os gwelwch unrhyw arwyddion o gwbl sy'n gwneud ichi feddwl y gallent fod yn profi unrhyw fath o gamdriniaeth neu esgeulustod, adroddwch eich pryderon.
I riportio plentyn sydd mewn perygl:
- Ffoniwch 01492 575111 yn ystod oriau swyddfa
- Ffoniwch 0300 123 3079 ar unrhyw adeg arall
- Llenwch ffurflen atgyfeirio a'i dychwelyd i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
I riportio oedolyn sydd mewn perygl:
- Ffoniwch 0300 456 1111 yn ystod oriau swyddfa
- Ffoniwch 0300 123 3079 ar unrhyw adeg arall
- Llenwch ffurflen atgyfeirio a'i dychwelyd i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.