Fferm Wynt ar y Môr Gwynt Y Môr  

Agorwyd Fferm Wynt ar y Môr Gwynt y Môr, sydd wedi’i lleoli oddi ar arfordir Gogledd Cymru, yn swyddogol ym mis Mehefin 2015 fel pedwaredd fferm wynt fwyaf y byd. Mae gan y fferm wynt arloesol yma botensial i gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i bweru anghenion blynyddol cyfatebol tua 400,000 o aelwydydd cyffredin yn y DU.

Mae'r prosiect yn cynrychioli buddsoddiad o fwy na £2 biliwn yn y diwydiant ar y môr yn y DU ac Ewrop. Mae safle Gwynt y Môr wedi’i leoli 13 cilometr (8 milltir) oddi ar arfordir Gogledd Cymru ar y pwynt agosaf i'r lan, 16 cilometr (10 milltir) o Landudno, a 18 cilometr (11 milltir) o Benrhyn Cilgwri. Mae dwy is-orsaf ar y môr ynghyd â cheblau rhyng-gysylltiad is-fôr ac ar y tir yn allforio trydan i'r Grid Cenedlaethol. Adeiladwyd cyfleuster porthladd harbwr ar dir a brydleswyd gan Iard Llongau Cammell Laird ar Afon Merswy ym Mhenbedw, ac oddi yno y gosodwyd sylfeini a cheblau. Gosodwyd tyrbinau gwynt o Borthladd Mostyn lle mae canolfan gwasanaeth gweithrediadau a chynnal a chadw bwrpasol wedi cael ei hadeiladu i gynnal 100 o swyddi hirdymor, medrus a'n fferm wynt ym Mae Lerpwl.

Mae RWE yn treialu canolfan brentisiaeth genedlaethol yng Ngogledd Cymru mewn ymgais i helpu i ddiwallu anghenion sgiliau ei bortffolio cynyddol o ffermydd gwynt cwbl fodern ar y môr, a rhai’r diwydiant ehangach yn y DU. Mae'r ganolfan hyfforddi’n adeiladu ar raglen brentisiaeth arobryn y cwmni yng Ngholeg Llandrillo, rhan o Grŵp Llandrillo Menai, yng Ngogledd Cymru.

Lansiwyd y rhaglen brentisiaeth hynod lwyddiannus yn 2012 i gynhyrchu technegwyr medrus a allai ddiwallu anghenion Gwynt y Môr. Ers hynny mae'r cwrs hwn wedi hyfforddi bron i 30 o brentisiaid newydd sy'n cynhyrchu technegwyr o ansawdd uchel sydd wedi'u defnyddio yn lleol a ledled y DU.

Yn 2020, cychwynnodd tair merch ifanc a phump o ddynion ifanc ar y rhaglen – y nifer mwyaf i RWE Renewables eu derbyn hyd yma.

Cronfa Gymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwynt y Môr  

Wedi'i lansio yn 2015, nod y gronfa yw cefnogi'r cymunedau arfordirol sydd agosaf at y fferm wynt ar gyfer oes ddisgwyliedig y prosiect o 25 mlynedd. Yn ystod y gwaith o adeiladu'r fferm wynt, gwnaed gwaith helaeth gan RWE, sy’n cael ei adnabod yn ffurfiol fel Innogy ac RWE npower renewables, i sicrhau bod y gronfa’n cael ei chynllunio mewn ffordd oedd yn sicrhau ei bod mor effeithiol â phosib.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397