Cronfa o £19 miliwn gan Fferm Wynt Gwynt y Môr ar gyfer cymunedau arfordirol Gogledd Cymru.

Gyda buddsoddiad hirdymor o £19 miliwn, dros oes y fferm wynt, mae Fferm Wynt ar y Môr Gwynt y Môr (GYM) yn helpu cymunedau arfordirol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint i gyflawni pethau anhygoel.

Mae'r gronfa'n hyblyg iawn fel ei bod yn gallu diwallu gwahanol anghenion ac uchelgeisiau cymunedau ar draws yr ardal arfordirol. Mae'n canolbwyntio ar y themâu canlynol:

  • Creu cymunedau cadarn a chynaliadwy;
  • Datblygu cymunedau ffyniannus gyda thwf economaidd cryf;
  • Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb mewn cymunedau.

Gweinyddir y gronfa yn annibynnol gan Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) mewn cydweithrediad â Chynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mae CGGC yn cyflogi rheolwr cronfa llawn amser, lleol. Gwneir y penderfyniadau am ddyrannu’r arian gan banel grantiau o bobl sy'n byw, yn gweithio neu'n gwirfoddoli yn yr ardal sy’n elwa o’r gronfa.

Nod y wefan hon yw ateb eich cwestiynau chi am y gronfa, ond os oes gennych chi gwestiynau o hyd, cofiwch gysylltu â ni.

Fferm Wynt ar y Môr GYM, wedi’i lleoli oddi ar arfordir Gogledd Cymru, yw ail fferm wynt fwyaf y byd. Mae gan y fferm wynt arloesol hon y potensial i gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i bweru anghenion blynyddol cyfatebol tua 400,000 o aelwydydd cyffredin yn y DU. Mae'n cynrychioli cyfanswm buddsoddiad o fwy na £2 biliwn, sy’n cael ei rannu ar hyn o bryd rhwng RWE (50%), Stadwerke München GmBH (30%), Macquarie Infrastructure ac Asedau Real (20%) .

MAES BUDD  

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397