Cronfa Gwynt y Môr

Mae’r gronfa'n cael ei gweinyddu’n annibynnol gan Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) mewn cydweithrediad â Chynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mae CGGC yn cyflogi rheolwr cronfa llawn amser, lleol. Gwneir y penderfyniadau am ddyrannu’r arian gan banel grantiau o bobl sy'n byw, yn gweithio neu'n gwirfoddoli yn yr ardal sy’n elwa o’r gronfa.

Am y panel

Gwneir pob penderfyniad am ddyrannu’r cyllid gan banel o wirfoddolwyr lleol sy'n byw, yn gweithio neu'n gwirfoddoli yn yr ardal sy’n elwa o’r gronfa.

Mae aelodau'r panel yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn fel arfer i ystyried ceisiadau, gydag un cyfarfod yn rhoi sylw penodol i ystyried ceisiadau mawr dros £10,000.

Mae gan bob un wybodaeth, profiad ac empathi tuag at y trydydd sector a'r heriau sy'n wynebu grwpiau a sefydliadau cymunedol. Er mwyn sicrhau dull "unedig" o ymdrin â phrosiectau a mentrau rhanbarthol, mae gennym gynrychiolydd o bob un o'r tri Awdurdod Lleol, y cynghorau gwirfoddol sirol (CGSSFf, CGSSDd a CGGC) ynghyd ag unigolion uchel eu parch a brwdfrydig sydd ag oes o sgiliau sector gwirfoddol a phrofiad ymarferol.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397