Ffurflenni Cais a Chanllawiau

Lawrlwythwch ein ffurflenni cais yma: ond rydym bob amser yn croesawu sgwrs yn y lle cyntaf!

Grantiau o hyd at £1,000 (Micro Grantiau)

Ffurflen gais

Grantiau o hyd at £1,000 (Micro Grantiau)

Canllawiau i ymgeiswyr

Grantiau o hyd at £5,000 (Grant Ymateb i COVID-19)

Ffurflen gais

Grantiau o hyd at £5,000 (Grant Ymateb i COVID-19)

Canllawiau i ymgeiswyr

Grantiau o hyd at £25,000

Ffurflen gais

Grantiau o hyd at £25,000

Canllawiau i ymgeiswyr

Potiau Cyllido:

Grantiau o hyd at £1,000 (Micro Grantiau)

Mae'r gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant, goroesi neu gau, yn fach iawn yn aml. Mae'r rhaglen micro-grantiau hon hyd at £1,000.00 wedi'i thargedu'n bennaf at grwpiau cymdogaethau llai sydd angen darn hanfodol o offer, uned newydd, neu ychydig iawn o gostau sefydlu.

Ansicr? - cysylltwch â ni am drafodaeth neu gyngor cychwynnol.

Grantiau o hyd at £5,000 (Grant Ymateb i COVID-19)

Bydd Cronfa Grantiau Ymateb i COVID-19 yn darparu cyfleoedd cyllido sydd rhwng £100 a £5,000 i grwpiau sy'n darparu cefnogaeth ar y rheng flaen. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd lenwi a chyflwyno ffurflen gais syml. Bydd angen i'ch cais gefnogi un o dair thema'r gronfa:

  • Creu cymunedau cadarn, cydlynol a chynaliadwy
  • Datblygu cymunedau ffyniannus, mentrus gyda thwf economaidd cadarn
  • Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb mewn cymunedau

Grantiau o hyd at £25,000

Mae'r gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau bach hyd at £25,000. Bydd yn gallu cyllido prosiectau cyfalaf a refeniw sy'n canolbwyntio ar dair thema'r gronfa:

  • Creu cymunedau cadarn, cydlynol a chynaliadwy
  • Datblygu cymunedau ffyniannus, mentrus gyda thwf economaidd cadarn
  • Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb mewn cymunedau

Mae grantiau mawr o fwy na £25,000 ar gael, byddem yn gofyn i bob darpar ymgeisydd gysylltu â'r tîm grantiau i drafod eu cynnig cyn cyflwyno cais.

Rydyn ni yma i helpu

Gallwch bob amser ein ffonio ni os oes gennych chi gwestiynau penodol am y broses ymgeisio. Rydym hefyd yn cynnal cymorthfeydd cyllido rheolaidd mewn partneriaeth â chyllidwyr eraill, gan gynnwys y Loteri Genedlaethol.  Mae'r rhain wedi'u cynllunio i helpu ac arwain ymgeiswyr i wneud cais i’r gronfa, i gefnogi ymgeiswyr i ganfod cyfleoedd cyllido cyfatebol ac i wneud y defnydd gorau posib o'r gronfa os oes cyllidwyr priodol eraill i wneud cais iddynt.  Cadwch lygad ar Twitter a Facebook am ddyddiadau’r cymorthfeydd cyllido.

Rydym yn hoffi clywed am eich prosiectau, ac mae'n well gennym hyn na derbyn ceisiadau niwsans i'r gronfa. Cysylltwch â ni hefyd os cewch chi broblemau mynediad ac os oes arnoch chi angen cymorth. Rydyn ni yma i helpu!

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd penderfyniadau am ddyfarniadau’n cael eu gwneud gan y panel grantiau, sy’n cael ei gydlynu gan ein Tîm Grantiau.

  • Bydd pob ymgeisydd yn derbyn cadarnhad ar ôl derbyn ei gais.
  • Os nad yw'n gymwys, bydd y Tîm Grantiau’n hysbysu'r ymgeisydd.
  • Bydd pob cais yn cael ei asesu gan y Tîm Grantiau ac wedyn yn cael ei drosglwyddo i'r panel grantiau a fydd yn gwneud pob penderfyniad am ddyrannu’r cyllid.
  • Mae'r panel yn cynnwys trigolion lleol o’r ardal sy’n elwa o’r gronfa. Mae gwrthdaro buddiannau’n fater pwysig iawn i ni ac ni fydd unrhyw aelod o'r panel sydd â gwrthdaro buddiannau mewn perthynas â'ch cais yn asesu nac yn rhan o'r trafodaethau am eich cais.
  • Gall Rheolwr y Gronfa, wrth gynnal diwydrwydd dyladwy, holi am strwythur prisio dyfynbrisiau, llythyrau cefnogi, cyfranogwyr/buddiolwyr presennol neu ddarpar gyfranogwyr/buddiolwyr eich prosiect. Os ydych yn cael eich cyllido gan gyllidwr presennol, gall Rheolwr y Gronfa gysylltu â nhw am wybodaeth ychwanegol fel rhan o'r archwiliadau diwydrwydd dyladwy.
  • Yn dilyn cyfarfod y panel, hysbysir pob ymgeisydd ynghylch a ydynt wedi bod yn llwyddiannus.
  • Mae penderfyniad y panel yn derfynol ac ni ellir darparu adborth manwl.

Wedyn gofynnir i’r ymgeiswyr llwyddiannus gytuno i'r canlynol:

  • Ar ôl cwblhau eu prosiect, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd gwblhau ymarfer monitro a gwerthuso, ynghyd â thystiolaeth o wariant yn seiliedig ar ganlyniadau y cytunwyd arnynt ar ddechrau'r prosiect.
  • Defnyddio’r arian fel y nodir yn eich cais oni bai fod cytundeb wedi'i dderbyn ymlaen llaw. 
  • Cyflwyno adroddiadau cynnydd, bydd y rhain yn cael eu hamlinellu i bob astudiaeth achos unigol yn amodol ar faint y prosiect.
  • Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus gytuno i'n canllawiau brand, gan gynnwys defnyddio'r logo e.e. lliwiau a maint, at ddibenion cyhoeddusrwydd ac ati.

Mae angen cyflwyno'r holl sylwadau a’r ymholiadau a gyfeirir at y Gronfa i'r cyfeiriad canlynol Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397