Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr – Cwestiynau Cyffredin   

Rydyn ni yma i helpu

Gallwch bob amser ein ffonio ni os oes gennych chi gwestiynau penodol am y broses ymgeisio. Rydym hefyd yn cynnal cymorthfeydd cyllido rheolaidd i helpu ac arwain ymgeiswyr i wneud cais i’r gronfa ac i wneud y defnydd gorau posib o'r gronfa os oes cyllidwyr priodol eraill i wneud cais iddynt. 

Rydym yn hoffi clywed am eich prosiectau, ac mae'n well gennym hyn na derbyn ceisiadau niwsans i'r gronfa. Cysylltwch â ni hefyd os cewch chi broblemau mynediad ac os oes arnoch chi angen cymorth. Rydyn ni yma i helpu!

  • Pam mai CGGC sy’n rheoli'r gronfa yma pan mae'r fferm wynt yn perthyn i RWE?

    Mae CGGC yn gwbl annibynnol ar RWE ac unrhyw faterion sy'n gwrthdaro. CGGC hefyd yw llais swyddogol y trydydd sector yng Nghonwy, fel DVSC a FLVC yn eu priod siroedd. Mae gan CGGC wybodaeth, profiad a chysylltiadau helaeth ar draws y sector gwirfoddol ac mae yn y sefyllfa orau i weithio ochr yn ochr â grwpiau cymunedol. Hefyd mae gan y sefydliad brofiad o reoli grantiau cymunedol o'r math yma.

  • A fydd y rhain yn grantiau cyfalaf a refeniw?

    Byddant, bydd y rhain yn grantiau cyfalaf a refeniw.

  • Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

    Grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol yn yr ardaloedd penodol sydd i elwa yn y siroedd – Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

  • Oes raid i ymgeiswyr ddarparu isafswm o gyllid cyfatebol?

    Nac oes. Fodd bynnag, gall unrhyw geisiadau sydd â chyllid cyfatebol gael sgôr uwch yn ystod y broses asesu.

  • Oes posib cael ffurflenni a chyngor yn y Gymraeg?

    Oes. Mae'r holl weithdrefnau / ffurflenni gweinyddu’r grantiau’n ddwyieithog, a bydd staff sy'n siarad Cymraeg wrth law.

  • Am ba hyd fydd raid i ni aros o'r dechrau i'r diwedd?

    Mae'n dibynnu ar nifer o bethau; pa mor rhagweithiol yw'r ymgeisydd, pa mor fawr a chymhleth yw'r prosiect, faint o gyllid sydd ei angen, pa ganiatâd sydd ei angen.

  • Pwy fydd yn penderfynu pa geisiadau am grant sy'n llwyddiannus?

    Byddwn yn casglu unigolion sydd â chymwysterau a / neu brofiad addas o'r ardal sydd i elwa i ffurfio panel(au) grant.

  • Pryd fydd y penderfyniadau'n cael eu gwneud?

    Bydd y panel grantiau’n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Bydd yr ymgeiswyr yn cael gwybod am y canlyniad o fewn 3 diwrnod gwaith i'r cyfarfodydd.

  • Beth yw cyfnod y gofyniad prydlesu neu'r datganiad o fwriad gan berchennog y tir i brosiect cymunedol?

    Fel rheol, mae'n 21 mlynedd o leiaf (cytundeb prydlesu) er mwyn diogelu buddsoddiad y grŵp cymunedol a GYM.

  • Oes posib defnyddio'r gronfa hon i brynu tir ar gyfer grŵp nid-er-elw?

    Oes – ar yr amod y gall yr ymgeisydd ddangos yr angen, gwerth am arian a bod y pris prynu wedi'i brisio'n annibynnol eto, er mwyn sicrhau'r gwerth gorau.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397