Mae Gweithredu Cymunedol Abergele wedi derbyn cyllid ar gyfer Sied Ieuenctid Abergele. Helpodd £9,691 o Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr i ddatgloi cyllid cyfatebol ychwanegol gan Awards For All ac mae adeilad y Sied Ieuenctid wedi cael ei adnewyddu bellach.
Mae'r Sied Ieuenctid yn cynnig darpariaeth ar ôl ysgol ar gyfer hyd at 20 o bobl ifanc ym mhob sesiwn, gan roi lle diogel iddynt tan 5.30pm. Mae hefyd yn cynnal sesiynau grŵp bach ar gyfer pobl ifanc sydd, neu sydd mewn perygl, o gael eu gwahardd o'r ysgol neu nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae'r sesiynau'n annog pobl ifanc i ymgysylltu ac yn cynnwys gweithgareddau i gynyddu eu sgiliau yn ogystal â’u cefnogi i ddychwelyd i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Mae'r gwaith adnewyddu’n golygu bod gan un ystafell ddwy orsaf waith cegin lle gall pobl ifanc ymgynnull i goginio a mwynhau pryd o fwyd gyda'i gilydd yn eistedd o amgylch bwrdd. Mae’r gofod yma’n cael ei ddefnyddio hefyd ar gyfer addysgu, trafod a gweithgareddau anffurfiol. Mae’r ail ystafell yn cael ei defnyddio fel gweithdy cymunedol sy'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau o'u dewis, gan gynnwys cynnal a chadw beiciau a gwaith coed.
‘Mae'n wych cael lle i fynd ar ôl ysgol lle gallwn ni gymdeithasu a chael rhywbeth i'w fwyta'
'Rydw i'n hoffi'r holl bethau da rydyn ni'n eu gwneud fel graffiti a choginio'
'Rydyn ni'n cael gwneud pob math o bethau – rydw i'n edrych ymlaen at wneud ffotograffiaeth yn y castell dros hanner tymor'
'Fe gawsom ni ddiwrnod gwych yn Llanwrst ar gyfer yr Eisteddfod. Dydw i erioed wedi bod o'r blaen ac roeddwn i’n meddwl ei fod jyst yn ymwneud â siarad Cymraeg'
"Mae cyllid Gwynt y Môr yn ffynhonnell wych o gyllid i ni - dydw i ddim yn gwybod beth fydden ni'n ei wneud hebddo!"
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG