Clwb Rygbi y Rhyl a’r Fro

Cychwynnodd Clwb Rygbi y Rhyl a'r Fro ar brosiect uchelgeisiol iawn i adleoli ei hen gyfleuster 2 safle i leoliad newydd yn Nhynewydd, yn nes at y dref. Mae bellach wedi datblygu 4 arwyneb chwarae newydd, cyfleusterau newid newydd, adeilad clwb ac ystafell gymunedol sy'n gwasanaethu ystod eang o grwpiau lleol. Gwnaed y prosiect yn bosib drwy gefnogaeth cyllidwyr lluosog yn ogystal â gwerthu asedau'r clwb.

Wrth i'r prosiect agosáu at gwblhau'r ystafell gymunedol, roedd yn amlwg y byddai'n rhaid iddynt ddefnyddio llawer o'r hen ddodrefn o'r safle blaenorol, a fyddai'n amharu ar ansawdd y cyfleuster newydd. Prynodd £9,999 o Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr ddodrefn newydd a helpodd i ddarparu adnodd o ansawdd uchel i bobl leol ei ddefnyddio.

Mae'r clwb bellach wedi'i wreiddio'n gadarn yn y gymuned leol gyda llawer mwy o gyfranogiad gan drigolion a chyn-chwaraewyr. Mae cyfranogiad y plant a’r ieuenctid wedi cynyddu'n sylweddol ac mae tîm merched newydd wedi cael ei lansio. Mae'r ystafelloedd cyfarfod a chymunedol yn cael eu defnyddio'n dda iawn eisoes gan ystod eang o grwpiau cymunedol lleol gyda’r archebion yn llenwi ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae £10,000 arall wedi'i ddyfarnu ers hynny ar gyfer llifoleuadau a fydd yn helpu i gynyddu'r defnydd o'r cyfleuster fwy fyth, yn enwedig yn ystod misoedd tywyll yr hydref a’r gaeaf.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397