STRAEON LLWYDDIANT

Astudiaeth Achos Gwirfoddolwr - Carole Sandham, Clwb yr Efail

Fel Gwirfoddolwr yn y Ganolfan Ddydd i’r Henoed, mae Carole yn gweini cinio, yn helpu gyda rhoi pobl i eistedd ac yn gofalu am eu hanghenion.

Dechreuodd gymryd rhan ar ôl cysylltu â Kasia o Dîm Gwirfoddoli CGGC yn Neuadd y Dref Llandudno yn ystod Digwyddiad Pen-blwydd CGGC yn 25 oed, gan ei bod yn dymuno helpu’r gymuned mewn rhyw ffordd. Ar ôl trafodaethau, fe aeth Kasia ati i ddod o hyd i rôl wirfoddoli i Carol lle gallai fod o gwmpas pobl a darparu cefnogaeth i'r rhai mewn angen.Fe roddodd Carole gynnig ar gyfle gwahanol, ond nid oedd yn gwbl addas, daeth yn ôl at Kasia ac fe'i rhodd mewn cysylltiad â Pat a Terry yng Nghlwb yr Efail. Roedd Carol yn ffitio i mewn yno ac wrth ei bodd pha mor groesawgar oedd pawb, gan ei thywys o gwmpas a gwneud yn siŵr ei bod yn teimlo'n hyderus gyda'r tasgau. Daeth yn aelod gwerthfawr o'r tîm yn gyflym iawn!

Stori Gwirfoddolwr Ifanc- Charlie Cottington

Mae Charlie yn ddisgybl ysgol gynradd sy'n gwirfoddoli ei amser i helpu i ofalu am anifeiliaid a gwarchod yr amgylchedd. Mae'n 10 oed ac yn Sgowt gyda chriw y Gogarth. Ond mae ei holl weithgareddau gwirfoddoli y tu allan i'w ymrwymiadau ysgol a’i ymrwymiadau gyda’r Sgowtiaid.

Gwirfoddolwr Car y Llan- Bethan Trenchard

Dechreuodd Bethan wirfoddoli gyda Car y Llan ar ddechrau’r cynllun ar ddiwedd 2019. Cafodd Covid effaith fawr ar y cynllun ond ers iddo ailddechrau gweithredu mae Bethan wedi bod yn gaffaeliad mawr i’r cynllun wrth ddosbarthu presgripsiynau’r feddygfa yn wythnosol ym mhob tywydd.

Youth Shedz yn ehangu ac yn sicrhau bod gwirfoddolwyr a phobl ifanc i gyd yn cael eu cadw'n ddiogel

Mae Youth Shedz yn fenter arobryn sy’n darparu lle diogel i bobl ifanc archwilio pwy ydyn nhw, datblygu perthnasoedd cymdeithasol gyda modelau rôl addas, a datblygu a dysgu sgiliau newydd.

Kasia Kwiecien – Fy Siwrnai Gwirfoddoli

Ar ôl wyth mlynedd o weithio ym myd lletygarwch, fe wnes i ddechrau dyheu am newid. Dyna oedd dechrau fy siwrnai gwirfoddoli. Roeddwn i’n awyddus i ennill sgiliau newydd, i gyfarfod pobl o bob lliw a llun, ac i gael gwell dealltwriaeth o’r gymuned roeddwn i’n byw ynddi.

Stori Llwyddiant Mark Albrow

Fe wnes i gysylltu â Ceri Jones, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli yn CGGC, a thrafod swyddogaethau gwirfoddoli, a gofynnais iddi fy nghyfeirio at y rôl o fewn Creu Menter. Fe gysylltodd Ceri â mi sawl gwaith i sicrhau fy mod yn hapus yn fy rôl fel gwirfoddolwr.

ITACA brosiect Glanhau'r Castell

Gweithredu Cymunedol Abergele (ITACA), gynigiodd brosiect Glanhau'r Castell, yn Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych, mewn cydweithrediad â rhai o'i wirfoddolwyr ifanc presennol, a chyflwynodd gais i'r Gronfa Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid, i gyflawni hyn.

Youth Shedz

Mae gwirfoddolwyr wedi cefnogi Youth Shedz gyda thua 250 awr o wirfoddoli, cynnal cwisiau a sgyrsiau a chadw mewn cysylltiad â'r ieuenctid yn ystod y cyfnod cloi allan.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397