RECRIWTIO GWIRFODDOLWYR

Cofrestru eich cyfle gwirfoddoli gyda ni!

Gall Gwirfoddoli CGGC helpu eich sefydliad i recriwtio gwirfoddolwyr. Ar hyn o bryd mae mwy na 100 o sefydliadau gwirfoddol wedi cofrestru eu cyfleoedd gwirfoddoli gyda ni, fel ein bod yn gallu eu cefnogi i recriwtio gwirfoddolwyr addas.

Sut mae hyn yn gweithio? Os byddwch chi’n cofrestru eich cyfle gwirfoddoli gyda ni, fe allwn ni wneud y canlynol:

  • Hyrwyddo eich lleoliad gwirfoddoli yn ystod yr apwyntiadau un-i-un wedi'u teilwra rydyn ni’n eu darparu ar gyfer darpar wirfoddolwyr sy'n chwilio am leoliad addas
  • Hysbysebu eich cyfle ar wefan Gwirfoddoli Cymru (www.volunteering-wales.net)
  • Hysbysebu eich cyfle yn ein colofn wythnosol yn y papur newydd lleol
  • Arddangos gwybodaeth am eich cyfle          
  • Darparu cyfarwyddyd am arfer da  

Adnoddau a Chanllawiau

Cod Ymarfer

Datblygwyd y Cod Ymarfer i helpu unrhyw un sy'n gweithio gyda gwirfoddolwyr i sicrhau eu bod yn gwneud hynny o fewn y fframwaith arfer da. E-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. i ofyn am gopi papur.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397