EISIAU GWIRFODDOLI?
Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hun:
Mae gwirfoddoli'n cynnwys rhywfaint o ymrwymiad a chyfrifoldeb personol ond mae hefyd yn arwain at ymdeimlad o gyflawni a boddhad. Beth bynnag yw eich rhesymau chi dros wirfoddoli, y cyngor pwysicaf y gellir ei roi i chi yw mwynhewch yr hyn rydych yn ei wneud.
Gall CGGC roi’r holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen i wneud dewis doeth am wirfoddoli. Rydyn ni’n helpu unigolion i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli ac rydyn ni’n darparu gwybodaeth am y sefydliadau sydd angen cefnogaeth. Cysylltwch a’r tîm gwirfoddoli i drafod y cyfleoedd posib i chi: 01492 534091 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn i’w argraffu o'n ffurflen gofrestru, ei llenwi a'i e-bostio atom. Os nad ydych chi’n siŵr beth hoffech ei wneud, mae gwefan Gwirfoddoli Cymru yn lle da i ddechrau edrych, oherwydd gallwch bori yn ôl cod post neu faes diddordeb i weld yr amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Conwy, felly beth am gofrestru heddiw.
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG