Mark Albrow

Fe wnes i gysylltu â Ceri Jones, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli yn CGGC, a thrafod swyddogaethau gwirfoddoli, a gofynnais iddi fy nghyfeirio at y rôl o fewn Creu Menter. Fe gysylltodd Ceri â mi sawl gwaith i sicrhau fy mod yn hapus yn fy rôl fel gwirfoddolwr.

Roeddwn i'n chwilio am rôl ddefnyddiol ac fe welais i’r hysbyseb ar gyfer 'Hyrwyddwyr Digidol' gan Creu Menter, gyda'u Prosiect Mynediad Digidol, ac roeddwn i eisiau cymryd rhan, gan fod gen i gefndir mewn Cymorth T.G. Fel gwirfoddolwr rydw i’n rhoi cymorth i bobl sydd eisiau defnyddio tabled/gliniadur i gael mynediad i'r rhyngrwyd a defnyddio ei bosibiliadau i alluogi mwy o gyswllt cymdeithasol a defnyddio gwasanaethau bob dydd a ffynonellau gwybodaeth defnyddiol.

Mae gwirfoddoli wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i mi ac wedi rhoi boddhad 'swydd' i mi, a chadarnhau'r cyfeiriad y dylwn fod yn ei ddilyn. Rydw i wedi dysgu am safbwynt gwahanol gan y tenantiaid. Rydw i wedi helpu eraill drwy ddarparu mynediad at ddeunyddiau hyfforddi ar-lein a chanllawiau a rheolau print, sydd, gobeithio, wedi bod yn ddefnyddiol i'r bobl rydw i'n eu cefnogi. Cefais fy nghyfeirio gan Creu Menter at eu cynghorydd cyflogaeth a arweiniodd yn uniongyrchol at gael gwaith defnyddiol a'm harwain at gael gwaith yn y sector gofal.

Gwirfoddoli i mi yw cyfrannu'n gadarnhaol at y gymuned drwy gyflawni rôl ddefnyddiol heb ddisgwyl unrhyw beth yn ôl.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397