Croeso i Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog!

Gyda buddsoddiad hirdymor o £19 miliwn, dros oes y fferm wynt, mae Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog yn helpu cymunedau gwledig Conwy a Sir Ddinbych i gyflawni pethau anhygoel.

Mae'r gronfa'n hyblyg iawn fel ei bod yn gallu diwallu gwahanol anghenion ac uchelgeisiau cymunedau ar draws yr ardal. Mae'n canolbwyntio ar y themâu canlynol:

  • Cymunedau Ffyniannus
  • Iechyd a Lles
  • Yr Economi
  • Cadwraeth a’r Amgylchedd
  • Digidol

Mae’r themâu yma yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol https://www.futuregenerations.wales/cy/about-us/future-generations-act/

Gweinyddir y gronfa yn annibynnol gan Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC). Mae CGGC yn cyflogi rheolwr cronfa llawn amser, lleol. Gwneir y penderfyniadau am ddyrannu’r arian gan banel grantiau o bobl sy'n byw, yn gweithio neu'n gwirfoddoli yn yr ardal budd y gronfa.

Nod y wefan hon yw ateb eich cwestiynau chi am y gronfa, ond os oes gennych chi gwestiynau o hyd, cofiwch gysylltu â ni:

Maes Budd

  • Ewch i'r ddolen yma a'r gyfer Map Rhyngweithiol
    Gallwch roi eich cod post i mewn yn y chwiliwr neu fynd i'r nod tudalen ar y dde a dewis pa gronfa ac ardal e.e. Clocaenog parth 1 yr ydych eisiau edrych arni

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397