AMDANOM NI

Mae’r sector gwirfoddol a chymunedol (y trydydd sector) yn gwneud cyfraniad sylweddol at wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan ategu gwasanaethau statudol drwy lenwi bylchau mewn gwasanaethau a helpu i ddarparu gwasanaethau’n ddi-dor. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y sector fel partner allweddol ar gyfer cyflawni ei pholisi iechyd a lles. Caiff hyn ei adlewyrchu yng ngweledigaeth GIG Cymru, sydd â phobl leol wrth ei chalon.

Mae gan Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC) dri swyddog sy’n cysylltu â’r trydydd sector, y Bwrdd Iechyd a’r Awdurdod Lleol i sicrhau bod y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghonwy mor gryf ac unedig â phosib. Mae hyn yn cynnwys eistedd ar grwpiau llywio a phartneriaethau allweddol, cynnal rhwydwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol traws-sector rheolaidd, ac ymgysylltu’n uniongyrchol â dinasyddion Conwy. Hefyd mae CVSC yn darparu Car y Llan, sef cynllun car cymunedol. Mae’r cynllun hwn wedi’i ariannu gan grant ac yn gweithredu er budd cleifion ynysig sydd wedi cofrestru â Phractis Meddygol Uwchaled a Meddygfa Betws-y-Coed.

Mae’r sectorau statudol a gwirfoddol yn gweithio mewn partneriaeth mewn amrywiaeth eang o feysydd:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Datblygu Economaidd
  • Trosedd ac Anrhefn
  • Dysgu Gydol Oes
  • Gwybodaeth
  • Plant a Phobl Ifanc
  • Datblygu Cymunedol

Cysylltwch:

  • Geraint Davies

    - 01492 523 850, Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397