RHWYDWAITH IECHYD A LLES

Y Rhwydwaith Iechyd a Lles yw un o’n rhwydweithiau mwyaf hirsefydlog. Mae’n agored i bob rhanddeiliad sydd â diddordeb yn yr agenda iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghonwy. Mae’n cefnogi ymgysylltiad rhwng y sector gwirfoddol/trydydd sector, cymunedau a’r sector cyhoeddus ac yn gyfrwng i alluogi llais y sector i ddylanwadu ar bolisi, i nodi cyfleoedd cydweithredu ac i rannu arferion da, gwybodaeth a phrofiad.

Cynhelir cyfarfodydd bob chwarter, lle mae gwahanol siaradwyr o bob rhan o’r sectorau’n cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am eu meysydd gwaith. Mae hyn nid yn unig yn hwyluso ymgysylltiad ac adborth, ond hefyd yn helpu i nodi’r cyfleoedd i gydweithio er budd dinasyddion Conwy, a phwy fyddai’n gallu cynrychioli’r sector orau mewn amrywiol gyfarfodydd partneriaeth. Yn y cyfamser rhwng y cyfarfodydd hyn, mae gwybodaeth yn cael ei lledaenu’n rheolaidd yn electronig i’r rhai sydd wedi dewis bod ar restr e-ddosbarthu’r Rhwydwaith Iechyd a Lles. 

Ychydig o adborth gan ein mynychwyr:

“Bob amser yn ddefnyddiol gwybod beth sy’n digwydd”

“Da cael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau a chysylltiadau”

“Cyfle rhwydweithio ardderchog”

“Bob amser yn llawn gwybodaeth ac yn amrywiol. Diolch”

“Cymysgedd dda o wybodaeth leol a rhanbarthol”

A-Y Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru 16 Mai 2024

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397