Ffarwelio ag Aelodau Panel Grantiau Dan Arweiniad Pobl Ifanc

Y mis diwethaf rydym wedi ffarwelio â'r gwirfoddolwyr gwych ar banel Grantiau Dan Arweiniad Pobl Ifanc CGGC: Teigan, Lucy, Ella, Bethan a Caitlyn.

Mae aelodau'r panel yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â gweinyddu Grantiau Dan Arweiniad Pobl Ifanc CGGC. Roedd y ddwy flynedd ddiwethaf yn anodd iawn iddynt gan eu bod yn gweithio'n galed i gyflawni eu cymwysterau TGAU a Safon Uwch yn ystod pandemig y coronafeirws. Serch hynny, gwnaethant bob ymdrech i ddod i gyfarfodydd panel ac roedd ganddynt lawer o frwdfrydedd, syniadau newydd a safbwynt unigryw bob amser.

Gan weithio'n galed i wella ein cymuned leol a'r cynnig i bobl ifanc, fe wnaethant adolygu llawer o geisiadau grant dros y blynyddoedd diwethaf, rhannu eu sylwadau gwerthfawr a gwneud penderfyniadau cyfrifol. Roeddent bob amser yn angerddol am faterion oedd pobl ifanc wedi’u profi ac roeddent am sicrhau eu bod yn ariannu'r prosiectau cywir.

Roeddent hefyd yn rhan o broses Cyllidebu Cyfranogol Ieuenctid Cyngor Tref Bae Colwyn. Roedd yn gyfle i aelodau'r panel ymestyn eu profiad, a chael cydnabyddiaeth mewn lleoliad cymunedol dinesig ac ehangach. Fe wnaethant gymryd rhan mewn cyfarfod cynllunio ac yna dylunio’r poster hyrwyddo. Ym mis Ionawr 2021, fe wnaethant ymuno â sesiwn ar-lein, i drafod ac arfarnu'r ceisiadau a ddaeth i law cyn digwyddiad pleidleisio i drigolion lleol ym mis Chwefror. Roedd eu lleisiau wedi'u clywed ac roeddem yn falch iawn o ba mor dda yr oeddent wedi cyfrannu at y trafodaethau.

Mae'r menywod ifanc hyn wedi bod yn hyrwyddwyr gwirfoddoli ieuenctid ac wedi ein helpu i hyrwyddo gwerth cynnwys gwirfoddolwyr ifanc ar draws y Trydydd Sector. Roeddem yn falch iawn o allu eu gwahodd i gaffi Porter ym Mae Colwyn, am gacen a diod o'u dewis, a'u cyflwyno gyda Thystysgrifau Diolch. Roedd yn gymaint o bleser eu gweld mewn bywyd go iawn ar ôl yr holl fisoedd hyn, pan oeddem ond yn gallu gweld ein gilydd drwy sgriniau ein gliniaduron. Pob dymuniad da iddynt ar ddechrau eu taith newydd, nid oes gennym amheuaeth y byddant yn gwneud pethau gwych yn ystod eu hastudiaethau yn eu prifysgolion dewisol a bod dyfodol disglair o'u blaenau.

Teigan oedd ein haelod ‘hynaf’. Ymunodd â'r panel yn 2017 ac mae wedi bod yn fentor gwych i eraill, ac yn llysgennad gwirfoddoli. Dywedodd 'Rwy'n teimlo fy mod wedi dod yn llawer mwy hyderus ers i mi ddechrau gwirfoddoli, rwyf wedi cwrdd â chymaint o bobl newydd sydd â diddordeb mewn pethau y mae gennyf ddiddordeb ynddynt. Mae gwirfoddoli yn rhywbeth anhygoel a gall roi cymaint o sgiliau newydd i chi a gallwch gael llawer o gyfleoedd newydd.’ Llwyddodd Kasia o Dîm Gwirfoddoli CGGC i gael sgwrs fer gyda hi cyn iddi fynd i fwynhau sioe The Circus of Horrors (ac wedi gwisgo'n addas!) i gyflwyno'r dystysgrif a diolch i Teigan am ei hymrwymiad a'i chyfraniad.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397