Kasia Kwiecien – Fy Siwrnai Gwirfoddoli

Fe wnes i gyrraedd y Deyrnas Unedig yn 2009 i ymuno â Mam, a oedd wedi bod yn byw yng ngogledd Cymru ers dipyn. Ers hynny rydw i wedi magu fy nheulu fy hun, bwrw gwreiddiau a datblygu gyrfa.

Ar ôl wyth mlynedd o weithio ym myd lletygarwch, fe wnes i ddechrau dyheu am newid. Dyna oedd dechrau fy siwrnai gwirfoddoli. Roeddwn i’n awyddus i ennill sgiliau newydd, i gyfarfod pobl o bob lliw a llun, ac i gael gwell dealltwriaeth o’r gymuned roeddwn i’n byw ynddi. Dywedodd un o fy ffrindiau agosaf wrtha i, “Gwirfoddoli ydi’r peth perffaith er mwyn gwneud hynny i gyd. Byddi di’n dysgu cymaint ac yn cyfarfod pobl fyddet ti byth yn eu cyfarfod fel arall.” Taniodd ei geiriau fy niddordeb mewn gwirfoddoli ac fe wnes i ddechrau gwneud rhywfaint o ymchwil i edrych ar y dewisiadau yn fy ardal leol. Bryd hynny roeddwn i’n gweithio’n rhan amser mewn gwesty, roedd fy mhlant yn yr ysgol eu dau ac felly roedd gen i rywfaint o amser sbâr i’w fuddsoddi yn fy antur newydd.Kasia Jan Certificate

Fe wnes i ddechrau chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli ar-lein cyn cofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru yn y pen draw. Fe wnes i gais am ychydig o wahanol swyddogaethau oherwydd doeddwn i ddim yn siŵr ym mha faes roeddwn i am fwrw ymlaen (datblygu fy sgiliau). Roeddwn i’n awyddus i helpu pobl eraill ond hefyd i ddysgu sgiliau newydd a fyddai’n gallu fy helpu i yn y dyfodol. Fe wnaeth Donna, y Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr yn CGGC, gysylltu â mi yn cynnig cymorth ac arweiniad. Fe wnaethon ni anfon ambell e-bost nôl a mlaen ac fe wnaeth hi fy nghyfeirio I at rywfaint o wahanol gyfleoedd oedd o ddiddordeb i mi. Un ohonyn nhw oedd Gwirfoddolwr Galw Heibio ym Mind Aberconwy (Mind Conwy bellach) ac un arall oedd Cynorthwyydd Gweinyddol Gwirfoddol yn CGGC ei hun. Fe wnes i roi cynnig ar y ddau oherwydd roeddwn i’n teimlo bydden nhw’n rhoi gwahanol brofiadau i mi ac yn fy helpu i benderfynu pa lwybr dylwn ei ddilyn. Fe wnes i fwynhau’r ddau am amryw o resymau.

Ym Mind Conwy fe wnaeth Mark Rose, y cydlynydd gwirfoddoli, fy nghyflwyno i’r grŵp defnyddwyr gwasanaeth ac i wirfoddolwyr eraill, oedd yn bobl hyfryd ac agored pob un. Fe gefais i gyfle i gymryd rhan mewn prosiect a oedd yn cynnig lle diogel i bobl ag anawsterau iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Roeddwn i’n gallu gweld hefo fy llygaid fy hun cymaint roedden nhw’n elwa ar ddim mwy na chael sgwrs hefo rhywun cyfeillgar, hy pa mor bwysig ydi hi iddyn nhw fod rhywun yn gwrando ac yn talu sylw. Roedd hyd yn oed pethau syml fel chwarae gemau bwrdd yn eu gwneud yn hapus. Unwaith roedden nhw’n ymddiried yno’ i, roedden nhw’n rhannu eu hanesion hefo fi ac roeddwn i’n ddiolchgar eu bod yn gadael i mi fod yn rhan o’u bywyd. Roedd yn rhoi teimlad o foddhad i mi. Am brofiad gwerthfawr. Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau personol roedd rhaid i mi roi’r gorau i wirfoddoli hefo Mind Conwy ar ôl ychydig fisoedd.

Yr un pryd ag yr oeddwn i’n gwirfoddoli hefo Mind Conwy, fe wnes i ddechrau fy rôl weinyddol yn CGGC. Fe wnes i fwynhau o’r cychwyn cyntaf. Roedd yr holl staff a’r gwirfoddolwyr eraill yn gyfeillgar a chymwynasgar iawn, ac fe ges i groeso cynnes a oedd yn meddwl y byd i mi, a finnau’n dod o dramor. Roedd pob diwrnod yn gyfle i ddysgu rhywbeth newydd, nid dim ond am ddyletswyddau gweinyddol ond hefyd am sut mae sefydliadau’r trydydd sector yng Nghonwy yn gweithio, a’r hyn maen nhw’n ei gynnig i’r gymuned. Roedd hi’n hynod ddiddorol ac yn agoriad llygad sylweddoli bod cynifer o bobl leol yn rhoi eu hamser a’u hymdrech i helpu pobl eraill mewn cynifer o wahanol feysydd. Roedd hyn yn fy nghymell i wneud fy ngorau glas i wneud eu gwaith yn haws ac yn fwy effeithlon. Fe wnes i weld fy mod i’n gallu gwneud hynny’n dda a bod amgylchedd swyddfa yn fy nharo i’r dim. Roedd fy mentor, Jan Smith, yno bob amser i fy nghefnogi a fy rhoi ar ben ffordd er mwyn ennill sgiliau a gwybodaeth newydd. Rydw i wedi magu hyder a hunan-barch i’r graddau fy mod yn gallu ateb y ffôn a delio ag ymholiadau heb gryndod yn fy llais, a hyd yn oed mynd i ddigwyddiadau fel rhai i Ddarparwyr yn y llyfrgell leol ac yn y Ganolfan Waith er mwyn rhannu fy hanes hefo pobl eraill, a’u helpu nhw i gychwyn ar eu taith gwirfoddoli eu hunain.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ges i gyfle i gymryd rôl gyflogedig rhan-amser fel Cynorthwyydd Gweinyddol. Roeddwn i ar ben fy nigon! Dyma rywbeth doeddwn i erioed wedi meddwl byddwn i’n gallu ei wneud – newid gyrfa a gweithio mewn sector sy’n meddwl y byd i mi. Sôn am wireddu breuddwyd. Cam cyntaf oedd hwn oherwydd roeddwn i’n dal yn gorfod gweithio mewn bwyty ar yr un pryd i gynnal fy nheulu, ond fe arweiniodd at bethau gwell byth oherwydd erbyn hyn, rydw i’n gweithio amser llawn i CGGC ac rydw i wrth fy modd. Bydda i’n fythol ddiolchgar i bawb yn CGGC am agor eu drysau, eu calonnau a’u cypyrddau ffeilio i mi. Drwy gydol fy amser yn gwirfoddoli hefo CGGC rydw i wedi teimlo fy mod yn cael fy mharchu, fy ngwarchod a fy ngwerthfawrogi.

Mae gwirfoddoli wedi bod yn newid byd go iawn oherwydd erbyn hyn, rydw i mewn lle hollol wahanol o’i gymharu â phedair blynedd yn ôl ar ddechrau hyn i gyd – ac mae’n lle gwell o lawer.

Dywedodd Jan Smith o CGGC, “Roedd Kasia’n seren o’r cychwyn cyntaf. Roedd ei brwdfrydedd, ei hymroddiad a’i gwaith caled yn ddiddiwedd. Mae wedi ysbrydoli cynifer o bobl o ran buddion gwirfoddoli ac wedi cyfrannu’n helaeth at ein presenoldeb cynyddol ar y cyfryngau cymdeithasol, a’n datblygiad ar y we. Mae’n unigolyn medrus ac mae CGGC yn ffodus iawn o’i chael fel rhan hollbwysig o’n tîm. Diolch o galon, Kasia, am dy holl ymdrechion sylweddol.”

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397