Cyngor Tref Bae Colwyn Grantiau Ieuenctid

Mae Cyngor Tref Bae Colwyn wedi dyrannu £5,000 o'i gyllideb flynyddol i helpu i gefnogi prosiectau / gweithgareddau ieuenctid yn 2022, ar gyfer pobl ifanc yn ardal Bae Colwyn (Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn, Bae Colwyn Uchaf a Hen Golwyn).

Gwahoddir ceisiadau nawr gan grwpiau / mudiadau lleol sy’n ceisio cefnogaeth ariannol (cyfalaf neu refeniw) ar gyfer prosiectau, digwyddiadau neu achlysuron a fydd o fudd penodol i bobl ifanc hyd at 25 blwydd oed.

Ffurflen gais ac arweiniad ar gyfer ymgeiswyr ar gael isod.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ar ddydd Llun 31ain Ionawr 2022

Am fwy o wybodaeth, ewch i'n gwefan: www.colwyn-tc.gov.uk neu dewch o hyd i ni ar Facebook @BayofColwynTownCouncil.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397