Cronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cysylltu Cymunedau Llywodraeth Cymru 2021-2024
Canllawiau i Ymgeiswyr
Cefndir
Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth gyntaf ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ac adeiladu cysylltiadau cymdeithasol cryfach https://llyw.cymru/unigrwydd-ac-ynysigrwydd-cymdeithasol-cysylltu-cymunedau. Er mwyn cefnogi'r weledigaeth hon, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd tair blynedd, gan ddyfarnu £22,727 i bob ardal awdurdod lleol y flwyddyn, sy'n cyfateb i gyfanswm o £68,181 ar gyfer Conwy dros y cyfnod 2021-2024
Y gronfa
Mae pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogaeth yn y gymuned a rôl cymunedau wrth fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Gall unrhyw un o unrhyw oedran a chefndir brofi unigrwydd ac ynysigrwydd a gall effeithio ar les corfforol a meddyliol. Mae'r cyllid ar gael i helpu i greu mwy o gyfleoedd i bobl gysylltu a chael perthnasoedd cymdeithasol mwy ystyrlon. Disgwylir y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ystod o wahanol weithgareddau / sefydliadau dros y tair blynedd yn hytrach nag un gweithgaredd neu sefydliad yn unig.
Pwy all wneud cais?
Grwpiau a sefydliadau cymunedol sy'n darparu ymatebion wedi'u teilwra'n lleol. Dyma enghreifftiau o’r ffyrdd i ddefnyddio’r cyllid:-
- helpu grwpiau a sefydliadau i ymestyn a / neu gynyddu gweithgareddau presennol,
- helpu grwpiau a sefydliadau i ailsefydlu eu hunain ar ôl y pandemig,
- hyrwyddo eu hunain yn ehangach, a
- helpu i ariannu’r defnydd o leoliadau addas.
Er ein bod am gefnogi gweithgareddau sy'n dod â phobl ynghyd wyneb yn wyneb mewn ffordd ddiogel, gellir defnyddio cyllid hefyd i gefnogi gweithgareddau ar-lein lle mai dyma'r ffordd fwyaf priodol neu'r unig ffordd i feithrin cysylltiadau cymdeithasol. Er enghraifft, lle mae mynediad i leoliad yn anodd neu i'r rheini nad ydyn nhw'n barod i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb.
Sylwch, dim ond ar gyfer costau refeniw y gellir defnyddio'r cyllid, ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer costau cyfalaf ac ni all ddyblygu unrhyw gyllid sy'n bodoli eisoes.
Faint allwn ni ymgeisio amdano?
Hyd at £3,000 y flwyddyn ar y mwyaf. Gall grwpiau dderbyn cyllid am fwy na blwyddyn, yn amodol ar werthuso. Bydd cyllidwyr yn cadw'r opsiwn i ailddyrannu arian os oes tystiolaeth nad yw canlyniadau'n cael eu cyflawni ac y gallai'r arian gael ei ddefnyddio'n fwy effeithiol pe bai'n cael ei ailddyrannu i ddarparwr / grŵp arall.
Y Broses Ymgeisio
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau’r ffurflen gais.
Lle bo hynny'n berthnasol, bydd cynnwys asesiad risg priodol ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig, yn unol â chanllawiau covid, yn rhan o'r cais.
Monitro a Gwerthuso
Disgwylir i’r sawl sy’n cael grant ddarparu adroddiad adborth byr yn amlinellu data allweddol ynghylch nifer y bobl sydd wedi elwa, ynghyd â rhywfaint o astudiaethau achos i dynnu sylw at y gwahaniaeth y mae eu gweithgareddau wedi'i wneud i bobl.
Dyddiadau Allweddol
17/12/2021 Agor y broses ymgeisio am grant
07/01/2022 Dyddiad cau
14/01/2022 Cyhoeddi llythyron dyfarnu grant
31/3/2022 Rhaid gwario’r dyfarniad grant ar gyfer 2021/2022 yn llawn