reSource CIC Dinbych

 

Resource Denbighshire

Yn ystod pandemig COVID-19, derbyniodd reSource CIC grant adfer covid-19 er mwyn eu cynorthwyo gyda'u costau rhedeg.

Mae reSource yn gweithio gydag ystod eang o aelodau o'r gymuned, tra eu bod yn canolbwyntio y gwaith ar gynhwysiant, a gweithio i gefnogi unigolion sy'n bell o'r farchnad lafur, nid ydynt yn sefydliad anabledd penodol. Maent yn canolbwyntio ar y sgiliau a'r cryfderau unigol a ddaw’r cyfranogwyr i'r prosiect ac wrth ddatblygu a chyflwyno gweithgareddau.

Trwy'r cyllid hwn, roeddent yn gallu cefnogi unigolyn ifanc ag anaf caffaeledig i'r ymennydd. Roedd yr unigolyn wedi dod yn rhwystredig iawn gyda’r cyfyngiadau cymdeithasol COVID a roddwyd arno ac nid oedd yn gallu deall. Roedd hyn yn cynnwys cael goruchwyliaeth ychwanegol oherwydd y risgiau o ran methu â chynnal pellter cymdeithasol ac ymddygiadau ‘risg’ eraill.

Roedd gan yr unigolyn dan sylw ddiddordeb mawr mewn garddio a dangosodd ddiddordeb yng nghynlluniau ReSource i ddatblygu garddio. Roeddent hefyd yn deall nad oedd yr unigolyn erioed wedi gallu ennill cymhwyster.

Yna fe wnaethant gyflwyno'r unigolyn i gymhwyster ASDAN galwedigaethol. Roedd hyn yn eu galluogi i gadw i’r dasg a roddwyd wrth iddo gofnodi'r gwaith yr oeddo wedi'i wneud ar gyfer y tystysgrif a chafodd ei galonogi gan ei gyflawniadau.

Roedd hyn hefyd yn fuddiol yn ei gartref lle gwnaeth gwblhau tasgau ‘gwaith cartref’ ac roedd yn awyddus i ddangos ei waith i ni ar ôl dychwelyd.

Dangosir y prosiect hwn, drwy derbyn costau rhedeg trwy gronfa adfer covid-19 Fferm Wynt coedwig Clocaenog bu i’r mudiad allu cefnogi unigolyn i allu cymryd rhan yn ei gymuned, gan wneud cysylltiadau ag eraill ar y safle, gan ddod â buddion cadarnhaol i’w fywyd cartref, gwelliannau i’w les a chodi ei ddyheadau.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397