Ar ôl gwylio cyfres ddogfen David Attenborough, Seven Worlds One Planet, penderfynodd Charlie gymryd camau pellach. Roedd yn bryderus iawn am y difrod i goedwigoedd glaw a'r niwed i organgutans. Ar ôl siarad gyda'i fam, dewisodd gefnogi’r World Wildlife Fund. Mae wedi codi £1,000 drwy ymgyrchoedd casglu sbwriel noddedig, taith gerdded noddedig o amgylch y Gogarth ar Noswyl Nadolig (!) a phacio bagiau mewn archfarchnad leol. Rhoddodd yr holl arian yma i'r WWF. Er gwaethaf yr holl gyfyngiadau yn ymwneud â phandemig y Coronafeirws, roedd yn dal i gymryd rhan ac yn dangos ei angerdd dros ddiogelu’r amgylchedd a helpu anifeiliaid.
Fe wnaeth ymdrechion Charlie gymaint o argraff ar Ray fel ei fod eisiau gwneud rhywbeth arbennig i gydnabod y bachgen ifanc ysbrydoledig yma yn ystod Seremoni Wobrwyo Flynyddol y Sgowtiaid. Gofynnodd i CGGC am help gan nad oedd unrhyw ddyfarniad swyddogol y gallai Charlie ei dderbyn a meddyliodd Swyddog Cyllid CGGC, Aled Roberts, am y syniad gwych o gysylltu â Syr David Attenborough yn uniongyrchol i ofyn iddo am ychydig eiriau caredig, yn ogystal â’r naturiaethwr a’r cyflwynydd o Gymru, Iolo Williams. Paratôdd Kasia Kwicien, Cydlynydd Gwirfoddolwyr CGGC, Dystysgrif Rhagoriaeth arbennig a mynychodd y Seremoni i’w chyflwyno i Charlie.
Anfonodd Syr David Attenborough, arwr mwyaf Charlie, lythyr llongyfarch personol ato a rhoddodd Iolo Williams dystysgrif i’r bachgen ifanc sy’n frwd dros fywyd gwyllt. Cyflwynwyd rhain gan Faer Tref Llandudno, gan wneud i Charlie deimlo’n arbennig iawn, ac roedd wrth ei fodd! Ni adawodd y wên ei wyneb am y noson gyfan.
Roedd yn anrhydedd enfawr cael cymryd rhan yn y digwyddiad arbennig yma a rhoi ei dystysgrif haeddiannol i Charlie. Mae’n fachgen ifanc eithriadol sy’n cael ei arwain gan gydymdeimlad ac yn llawn brwdfrydedd. Roedd gweld y syndod ar ei wyneb a'i hapusrwydd, yn enwedig pan dderbyniodd lythyr gan ei eilun Syr David, a'i fam mor emosiynol o ganlyniad, yn brofiad mor hyfryd. Rydw i’n falch iawn fy mod i’n gallu cynrychioli CGGC a dangos ein cefnogaeth ni i wirfoddolwyr ifanc a’r mudiad anhygoel yma - Sgowtiaid Cymru. Mae cyfarfod pobl ifanc fel Charlie yn dod â gobaith y gall y byd fod yn lle gwell rhyw ddydd.
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG