Youth Shedz yn ehangu ac yn sicrhau bod gwirfoddolwyr a phobl ifanc i gyd yn cael eu cadw'n ddiogel

Mae Youth Shedz yn fenter arobryn sy’n darparu lle diogel i bobl ifanc archwilio pwy ydyn nhw, datblygu perthnasoedd cymdeithasol gyda modelau rôl addas, a datblygu a dysgu sgiliau newydd.

Gydag angen mawr yn cael ei nodi gan ysgolion, yr heddlu a phartneriaid cymunedol eraill, rydyn ni wedi datblygu pecyn adnoddau i alluogi sefydliadau partner eraill i ddatblygu ethos Youth Shedz a phlannu Sied mewn gwahanol ardaloedd. Mae Cymdeithas Bêl Droed Llysfaen wedi bod yn bartneriaid i ni wrth ddatblygu’r pecyn adnoddau yma, ac rydyn ni wedi gweithio gyda nhw ers hydref 2021 i ddatblygu lle diogel sy’n anrhydeddu egwyddorion Youth Shedz.

Dywedodd Sian Jenkinson, Youth Shedz “Mae’r gwaith yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i sicrhau bod ein partneriaid ni’n cadw lle diogel – nid dim ond i’r bobl ifanc, ond drwy gael digon o oedolion addas sy’n gwirfoddoli i helpu i ddiogelu a goruchwylio sesiynau. Mae Bethan Jones yn Llysfaen yn ddiwyd ac yn angerddol am wneud i’r gofod weithio i bawb dan sylw.”

Mae CGGC wedi darparu cefnogaeth un i un i ddatblygu’r pecyn adnoddau (sydd bellach yn cael ei dreialu yn Ysgol Uwchradd Caergybi hefyd) a’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (a ailenwyd yn Gytundeb Trwydded) sy’n sicrhau bod y llywodraethu’n cael ei roi ar waith ar lefel strategol i sicrhau bod arferion diogel yn digwydd ar y tir.

Mae'r hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu gan CGGC bob amser yn ardderchog ac mae'r tîm bob amser ar gael i gefnogi unrhyw ymholiadau.

Gan Hyrwyddwr Sied Llysafen, Bethan Jones “Mae Youth Shedz yn anhygoel. Mae'r gefnogaeth rydyn ni’n ei chael gan Scott a'r tîm wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Rydyn ni’n gweithio drwy heriau gyda'n gilydd. Rydyn ni’n gweld ein pobl ifanc ni’n cymysgu gyda’i gilydd ac mae yna wefr o’r hyn maen nhw’n ei wneud yn y Sied ac i’r gymuned.”

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397