Yn 2021 derbyniodd grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd £24,000 drwy Gronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog tuag at eu Menter Cydweithredu Bwyd a Diod (ACE), sy’n brosiect partneriaeth gyda Grŵp Bwyd a Diod Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy.

Nod y Prosiect hwn oedd helpu busnesau Bwyd a Diod i adfer yn dilyn argyfwng Covid-19. Eu nod oedd ymchwilio a datblygu ffyrdd newydd o gydweithio gan gynnwys ‘gwerthu o bell’ e.e. ar-lein ac i nodi enghreifftiau o arfer da o ran sut i wneud cynhyrchion yn hawdd eu cyrraedd yn y cymunedau lleol.

 

Trwy'r prosiect hwn bu modd iddynt gyflogi 1 cydlynydd rhan amser ar gyfer y prosiect a threfnu digwyddiadau Bwyd a Diod - TASTE a digwyddiadau ffocws masnach. Y nod yw cynorthwyo 30 o fusnesau micro bwyd a diod Sir Ddinbych i dyfu dros gyfnod y prosiect.

Un o’r micro-fusnesau sydd wedi elwa o’r prosiect yw Chilly Cow, sydd wedi’i leoli yn Nyffryn Clwyd. Mae’n gynhyrchydd sydd wedi ennill gwobrau am eu Hufen Iâ cartref blasus maent yn ei greu trwy ddefnyddio llaeth ffres Cymreig fferm y teulu.

Ym mis Mai 2020 oherwydd y pandemig, sefydlodd Chilly Cow flwch gonestrwydd wrth giât y fferm i’w gwneud hi’n hawdd i’r rhai sy’n hoff o hufen iâ brynu eu cynnyrch, tra hefyd yn cydymffurfio â rheolau Covid 19. Mae wedi bod yn llwyddiant enfawr.

Fel aelod o Grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd, mae Chilly Cow wedi gweithio’n galed i gefnogi cynhyrchwyr bach eraill ac mae eu cynnyrch mewn stoc o fewn y blwch gonestrwydd ‘Cow Shed’. Felly, gall cwsmeriaid ddewis eu hufen iâ a hefyd prynu jam a siytni o Ardd Gegin Mostyn a Ffynnon Beuno, Coffi gan Owen ac Edwards – naill ai i fynd adref neu wedi’i weini’n ffres o’r ‘Cow Shed’, Sudd Afal a sudd afal ffres i fynd adref gyda nhw a Mêl y Mynydd Du sydd yn cael ei gynhyrchu o ychydig dros ochr arall Bryniau Clwyd.

Drwy fod yn rhan o brosiect Bwyd a Diod – Menter Cydweithredu, mae Anna Taylor, crëwr a sylfaenydd Chilly Cow yn dweud:

Cydweithio gyda chynhyrchwyr eraill yw’r ffordd ymlaen hefyd. Rydym yn gallu rhannu ein profiadau ag eraill fel rhan o’r prosiect ACE i ddangos iddynt fod cydweithio yn cynnig potensial gwirioneddol.

Er mai dod o hyd i amser fu’r her fwyaf ar gyfer cydweithredu, rydym yn awyddus i barhau i weithio gydag eraill lle bo hynny’n ymarferol, gan ddefnyddio gwersi a ddysgwyd megis ystyried amser datblygu, cost argraffu, labeli, meintiau o gynhwysion, marchnata a hyrwyddo. Rydym yn gweld gwerth mewn gweithio gydag eraill o'r un meddylfryd.

Rydym wedi dysgu i gael agwedd fusnes ddeinamig - bob amser yn gweld y cyfle nesaf, yn cadw i fyny ein safonau ansawdd uchel a gwrando ar adborth cwsmeriaid tra'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i roi gwybod i bawb ble rydym ni, beth rydym yn sefyll dros a beth rydym yn ei wneud!”

Facebook / Instagram / Twitter:

@ClwydianRangeFoodandDrink            @chillycowicecream

@tastenortheastwales                          @TasteDeeValley 

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397