Wernog Wood

Yn 2021 lansiodd Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog grantiau busnes cyntaf RWE yn y DU.

Roedd Wernog Wood yn un o’r busnesau cyntaf llwyddiannus a dderbyniodd grant o £9,326.00 tuag at brynu melin lifio ‘Wood-Mizer’ i’w galluogi i brosesu eu pren eu hunain. Gallant hefyd ehangu'r amrywiaeth o gyrsiau sy'n ymwneud â phren sydd ar gael i'w myfyrwyr, a chyflogi sylfaen ehangach o diwtoriaid. Bydd hefyd yn eu helpu i ddodrefnu llety myfyrwyr.

Mae’r Wood-Mizer wedi eu galluogi i brosesu eu pren eu hunain ar gyfer y prosiectau canlynol hyd yn hyn heb orfod ei gludo o bell:

  • Gwneud turnau polyn ar gyfer eu cwrs gwneud cadeiriau coed gwyrdd
  • Sychu pren ar gyfer cyrsiau newydd y flwyddyn nesaf
  • Prosesu pren i bobl leol – ar gyfer bwrdd a dau gwt ieir.
  • Gwneud storfa foncyffion ar gyfer ein Sied Goch – llety myfyrwyr
  • Maent ar fin prosesu Ffynidwydden Douglas a syrthiodd mewn stormydd gan gymydog ar gyfer cwrs adeiladu ffrâm bren ym mis Medi pan fydd 8 myfyriwr yn dysgu sgiliau adeiladu mortais a thynon traddodiadol. Bydd yr adeilad bach hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cegin awyr agored mewn maes gwersylla.

Y flwyddyn nesaf maen nhw'n gobeithio ychwanegu cyrsiau newydd fel dodrefn ymyl byw neu blygu stêm, llestri bwrdd a dodrefn cartref, torri pren neu gerfio fel enghraifft ond efallai y bydd eraill hefyd.

Hyd yn hyn eleni (Ionawr - Awst), maent eisoes wedi cynnal 34 o gyrsiau ac mae ganddynt 12 cwrs pellach wedi’u cynllunio cyn diwedd y flwyddyn, h.y. 46 cwrs i gyd, gyda chyfanswm o 290 o leoedd ar gael. Mae'r myfyrwyr wedi dod o Gymru, Lloegr, yr Alban yn ogystal ag ymhellach i ffwrdd o UDA, yr Iseldiroedd a'r Ffindir. Mae adborth cwrs yn aml yn disgrifio'r lles meddyliol y mae'r cyrsiau yn ei roi i'r rhai sy'n mynychu, y balchder mewn cynhyrchu cynnyrch o ansawdd uchel a'r cyfeillgarwch o fewn y grŵp.

Rwy’n gadael y cwrs gwneud cadeiriau yng Wernog Wood gyda syniadau a sgiliau ffres, yr wyf yn bwriadu eu gwella a gallu ddefnyddio i ddylanwadu ar fy ngyrfa I wneud cadeiriau yn y dyfodol. Fy nghynllun yw parhau i adeiladu fy ngwybodaeth, sgiliau, portffolio a chyfryngau cymdeithasol gyda'r nod o ddechrau cynhyrchu a gwerthu fy nghadeiriau fy hun. Roedd y cwrs hwn yn gam enfawr ymlaen i mi, rwy’n teimlo’n fwy hyderus y gallaf gyflawni fy nod nawr.

Nododd un o’r myfyrwyr a fynychodd gwrs

 

 

Yn 2018 agorodd Wernog Wood gydag un tiwtor yn unig, y llynedd roedden nhw’n cyflogi 14, ac eleni maen nhw wedi cyflogi 18 o diwtoriaid llawrydd. Y flwyddyn nesaf maen nhw'n gobeithio cyflogi mwy. Yn ogystal â'r tiwtoriaid maent bellach yn cyflogi glanhawr rhan amser. Mae'r gyflogaeth hon yn helpu i adeiladu ar gymunedau ffyniannus.

Am fwy o wybodaeth arb eth sydd ar gael yn Wernog Wood ewch i:https://www.wernogwood.co.uk/                                                                               
Facebook & Instagram: @wernogwood

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397