Ariannu Cynnaliadwy
Cefnogi grwpiau cymunedol gyda phopeth sy'n ymwneud ag ariannau
Mae CCGC yn cynnig gwasanaeth cyngor ariannu AM DDIM, wedi'i deilwra i anghenion grwpiau dielw a chymunedol dielw, elusennau, ac menterau cymdeithasol, sydd wedi'u lleoli yng Nghonwy neu'n gwasanaethu pobl Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae ein gwasanaethau ar gyfer aelodau CCGC a chanddynt botensial yn cynnwys:
- Canfod ffynonellau posib ariannu;
- Canllawiau pwrpasol ar y technegau sydd eu hangen i gwblhau ceisiadau cyllid o ansawdd da;
- Syrjeri Ariannu 1-i-1 a digwyddiadau cwrdd â'r rhai sy'n darparu cyllid.
- Cyrsiau hyfforddiant ar Gyllid a chodi arian (Hyfforddiant a Digwyddiadau)
- Canllawiau ar ddatblygu syniadau'n brosiectau i gyflawni meini prawf y cyllidwyr.
- Gwirio ceisiadau cyn eu cyflwyno i'r cyllidwyr.
- Nodi sefydliadau eraill sy'n gwneud gwaith tebyg a allai elwa o ffurfio partneriaeth/rhannu cyngor
Gwybodaeth am Gyllid
Mae gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru borth cyllid y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i arian ar gyfer eich prosiect nesaf. Mae cofrestru yn cymryd llai na munud ac wedyn bydd gennych chi fynediad ar unwaith i wybodaeth am filoedd o gyfleoedd ariannu lleol, rhanbarthol, cenedlaethol ac Ewropeaidd – i gyd yn rhad ac am ddim!
Gallwn hefyd eich helpu i wneud cais am arian a sicrhau bod eich mudiad a’i bolisïau yn ‘addas ar gyfer ariannu’. Cysylltwch â grants@cvsc.org.uk am fwy o wybodaeth
Dosbarthiadau Meistr
O’n Cynhadledd Trydydd Sector 2025, dysgwch gan yr arbenigwyr ar sut i godi arian ar gyfer eich elusen neu sefydliad.
1. Mwy na grantiau: creu incwm arall
Mae Rachel Ginnelly o CCGC yn esbonio sut allwch chi arallgyfeirio’ch incwm gyda chodi arian, rhoddion, cymynroddion, buddsoddiadau a mwy.
2. Cynnwys busnesau mewn cynlluniau noddi
Mae Bev Garside, The Female Alchemist yn esbonio sut i ddatgloi incwm newydd drwy adeiladu partneriaethau effeithiol.
3. Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer ceisiadau am arian
Mae Nathan Williams o Promo Cymru yn amlinellu sut y gallwch chi ddefnyddio DA i ysgrifennu cynigion ac arbed amser.
Rhoi Hwb i Godi Arian!
Mae loteri gymunedol Loto Lwcus yn cynnig cyfle gwych i fudiadau nid-er-elw lleol godi arian parhaus mewn ffordd ddiogel ac effeithiol ar-lein, a hefyd, does dim ffi gofrestru!
Mae'r Loteri yn adnodd codi arian ar-lein AM DDIM ar gyfer achosion da lleol, i'w ddefnyddio yn eu hymgais i godi arian.
Does dim ffioedd na chostau gweinyddu, a dim ond cyfran fechan o’r tocynnau £1 sy’n mynd tuag at gefnogi costau rhedeg y loteri. Rydyn ni’n darparu’r holl ddeunyddiau marchnata a chyngor arbenigol. Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw rhoi gwybod i’ch cefnogwyr am y loteri. Byddwch yn derbyn 50c o bob tocyn rydych yn ei werthu.
Trowch eich siopa dyddiol yn rhoddion am ddim!
Mae easyfundraising yn gweithio gyda dros 8,000 o fanwerthwyr a fydd yn rhoi cyfran o'r hyn rydych chi'n ei wario i achos o'ch dewis. Ni fydd yn costio dim ychwanegol i chi; y manwerthwr sy'n talu'r gost.
Mae manwerthwyr yn talu comisiwn oherwydd, pan fyddwch chi'n dechrau siopa drwy wefan neu ap easyfundraising, gallant weld mai easyfundraising a'ch anfonodd atynt. Os byddwch yn gwneud pryniant, cynhyrchir comisiwn, ac mae easyfundraising yn ei droi'n rhodd! Dim cost ychwanegol, dim ymdrech ychwanegol.