Cymdeithas Gymunedol Llanfwrog

Ym mis Gorffennaf 2023 dyfarnwyd £40,290 i Gymdeithas Gymunedol Llanfwrog tuag at eu prosiect Effeithlonrwydd Ynni.

Roedd cyllid Clocaenog i fynd yn benodol tuag at amnewid y llusernau llifoleuadau presennol ar y Cwrt Tennis sef 2.1 Kw Metal Halogen gyda goleuadau LED 800w. Amcangyfrifir y bydd hyn yn sicrhau gostyngiad o tua 50% ar y defnydd o ynni. Yn ogystal, mae'r goleuadau hyn yn cydymffurfio â Menter Awyr Dywyll y Llywodraeth i leihau'r effaith ar yr amgylchedd. Mae'r elusen wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych ar y Fenter Awyr Dywyll. Mae hon yn fenter gan y llywodraeth i wella'r goleuadau / llifoleuadau i leihau'r effaith amgylcheddol tra'n lleihau'r defnydd o ynni trwy oleuadau LED.

Dywed Gwenno Jones, Swyddog Awyr Dywyll Tirweddau Dynodedig:

“Mae Cymdeithas Gymunedol Llanfwrog wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau llygredd golau yn y ganolfan ac wedi lliniaru cymaint â phosibl tra hefyd yn creu amgylchedd diogel ar gyfer defnyddio’r cyrtiau tennis a’r maes ymarfer golff.

Nid yn unig y mae newid y ffitiadau golau wedi cael effaith gadarnhaol ar fywyd gwyllt, mae hefyd wedi lleihau allyriadau carbon, mae ffigurau wedi dangos trwy ddisodli'r hen lifoleuadau 2KW gyda'r llifoleuadau chwaraeon golau tywyll 800W newydd, pan fydd pob un o'r 6 cwrt wedi'u troi ymlaen maent yn arbed 31.2KW /h sy’n arbediad o 61.9% mewn allyriadau trydan a charbon sy’n gadarnhaol iawn i’r amgylchedd a chost rhedeg y ganolfan.”

Mae hwn wedi bod yn brosiect llwyddiannus iawn, tra bod y sefydliad yn parhau i wneud gwelliannau er mwyn cynnal y cyfleusterau am flynyddoedd i ddod.

Mae Rod Bowden, ymddiriedolwr yn crybwyll:

“Mae’r buddsoddiad mesurau effeithlonrwydd ynni, a ymchwiliwyd yn broffesiynol, yn sicr yn un o’r mentrau pwysicaf y mae’r elusen hon wedi’i dilyn, heb y cyllid grant mae’n amheus a fyddem wedi goroesi.”

Mynychodd Swyddog CGGC, Marian Jones, ddigwyddiad lansio swyddogol y goleuadau newydd a soniodd ei bod yn bleser gweld yr holl blant a phobl ifanc yno yn bresennol ac yn mwynhau'r cyfleusterau.

https://www.denbighshirefreepress.co.uk/news/24199681.partnership-helps-lower-light-pollution-llanfwrog-community-hub/

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397