Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr
Mae cronfa o £19 miliwn ar gael gan Fferm Wynt ar y môr Gwynt y Môr ar gyfer cymunedau yn ardaloedd arfordirol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Fferm Wynt ar y Môr GYM, sydd wedi’i lleoli oddi ar arfordir Gogledd Cymru, yw’r ail fferm wynt fwyaf yn y byd. Mae gan y fferm wynt arloesol yma botensial i gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i roi pŵer ar gyfer anghenion blynyddol cyfatebol tua 400,000 o gartrefi yng Nghymru ar gyfartaledd. Mae’n cynrychioli buddsoddiad o fwy na £2 biliwn i gyd, sy’n cael ei rannu ar hyn o bryd rhwng RWE (50%), Stadwerke München GmBH (30%), Macquarie Infrastructure a Real Assets (20%).
Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr Ymateb i Covid 19
Bydd y gronfa ar agor i geisiadau bach o hyd at £10,000. Bydd modd iddi ariannu prosiectau refeniw a chyfalaf sy’n canolbwyntio ar dair thema’r gronfa:
- Adeiladu cymunedau cryf, cydlynol a chynaliadwy
- Datblygu cymunedau llewyrchus, mentrus gyda thwf economaidd cryf
- Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb mewn cymunedau
Llwythwch y ffurflenni cais a’r nodiadau cyfarwyddyd i lawr yma:
Cysylltwch â ni am drafodaeth gychwynnol
Am fwy o wybodaeth darllenwch y Cwestiynau Cyffredin yma
Gwynt-y-Mor Adroddiad y drydedd flwyddyn 2017-2018
Podlediad Chwefror 2020
Neu cysylltwch â Neil Pringle ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 01492 523845