Diogelu
Mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn chwarae rhan bwysig mewn darparu gwasanaethau a gweithgareddau i blant, pobl ifanc ac oedolion. Yng nghyfraith y DU, mae rhywun yn blentyn nes ei fod yn troi’n 18 oed. Mae’n hanfodol bod y gwasanaethau a’r gweithgareddau mae eich grŵp yn eu cynnig mor ddiogel â phosib, ac i sicrhau hyn, rhaid wrth fesurau diogelu yn eu lle.
Bydd sefydlu mesurau diogelu o help i’ch grŵp warchod plant, pobl ifanc ac oedolion rhag niwed a cham-drin, yn ogystal â helpu staff a gwirfoddolwyr i wybod beth i’w wneud os ydynt yn poeni neu’n bryderus am blentyn neu oedolyn.
Hefyd, byddwch yn wyliadwrus a chadwch lygad am ffrindiau, teuluoedd a chymdogion, ac os gwelwch unrhyw arwyddion o gwbl sy'n gwneud ichi feddwl y gallent fod yn profi unrhyw fath o gamdriniaeth neu esgeulustod, adroddwch eich pryderon.
I riportio plentyn sydd mewn perygl:
I riportio oedolyn sydd mewn perygl:
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn rhoi arweiniad i ymarferwyr sy'n ymwneud â diogelu ar sut y dylid gwneud pethau. Mae modd lawrlwytho'r gweithdrefnau i'ch ffôn symudol. Mae dolenni i lawrlwytho'r ap ar waelod hafan y wefan drwy'r ddolen isod. Ar ôl ichi lawrlwytho'r ap, ni fydd angen cysylltiad Wi-Fi arnoch i ddarllen y gweithdrefnau.
Dylai amddiffyn pobl a chyfrifoldebau diogelu fod yn flaenoriaeth lywodraethu i bob elusen. Mae'r canlynol yn ddolen i ganllaw a fydd yn cefnogi ymddiriedolwyr i roi systemau ar waith a fydd yn amddiffyn pawb sy'n dod i gysylltiad â'u sefydliad.
Mae’r Cod Ymarfer Diogelu newydd yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran trefniadau diogelu.
Mae’r Cod Ymarfer Diogelu wedi’i gyflwyno i bob mudiad ei ddilyn pan nad yw ei weithgareddau eisoes yn ddarostyngedig i ofynion statudol sy’n ymwneud â diogelu.
Mae’r cyngor hwn i unigolion, grwpiau a mudiadau sy’n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau i blant ac oedolion yng Nghymru i’w cynorthwyo i ddeall y trefniadau diogelu y dylent eu cael i weithredu’n ddiogel ac i ddiogelu’r holl gyfranogwyr.
Mae’r canllaw byr a hygyrch hwn yn tynnu sylw at eich cyfrifoldebau chi i gadw pawb sy’n dod i gysylltiad â’ch elusen yn ddiogel rhag niwed: mae hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr, staff a buddiolwyr.
Yn anffodus does dim fideo ar gael yn y Gymraeg Safeguarding for charities and trustees - YouTube
Nod ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus Stop it Now yw mynd i’r afael â gwylio a rhannu cynyddol ar luniau anghyfreithlon o blant.
Mae gwefan yr ymgyrch yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau a gwybodaeth i helpu pobl i atal gwylio a rhannu lluniau rhywiol, ac i gefnogi teuluoedd a ffrindiau pobl sy’n edrych ar luniau rhywiol o blant.
Mae’r Bwrdd yn gyffredinol gyfrifol am herio asiantaethau perthnasol yn yr ardal honno er mwyn sicrhau’r canlynol:
Dyma amcanion y Bwrdd Diogelu Oedolion:
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG