Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog
Beth yw Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog?
Mae Fferm Wynt Coedwig Clocaenog yn brosiect fferm wynt ar y tir ac yn berchen i RWE. Fe'i hadeiladwyd ar dir a brydlesir gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Mae gan y prosiect 96MW, ger Dinbych 27 tyrbin gwynt yn y goedwig sydd hefo’r capasiti i gynhyrchu trydan i oddeutu 63,800 o dai yn y DU yn flynyddol1.
Fel rhan o’r prosiect mi fydd buddsoddiad o £19miliwn dros gyfnod o 25 mlynedd I ardaloedd sydd o fewn yr ardal budd o fewn siroedd Conwy a Dinbych.
Lansiwyd y cynllun yn Hydref 2020 ac mae’n cael ei reoli’n annibynnol gan CGGC. Asesir ceisiadau’r gronfa gan banel lleol yn chwarterol. Mae’r panel yn cynnwys cynrychiolwyr cymunedol o’r ddwy sir ac arbenigwyr annibynnol.
1 Mae ynni y rhagwelir y bydd yn cael ei gynhyrchu yn deillio o gyflymder gwynt a gaiff ei fonitro yn yr ardal leol ac ynhgyd â data tywydd hanesyddol gan ddefnyddio modelau meteoroleg gyda data a gafwyd o systemau mesur lloeren, ar yr arwyneb ac a gludir mewn awyren. Mae'r cyfrifiadau'n seiliedig ar gapasiti wedi'i osod o 96MW. Mae cartrefi cyfatebol a gyflenwir yn seiliedig ar ddefnydd blynyddol o drydan fesul cartref o 4100 kWh. Cefnogir y ffigur hwn gan ddata diweddar ar ddefnyddio trydan domestig sydd ar gael gan The Digest of UK Energy Statistics a ffigurau aelwydydd gan Awdurdod Ystadegau Gwladol y DU.
Agoriad Swyddogol Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog
Canllawiau Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog
Ffurflen gais prosiect dros £10,000
Ffurflen gais prosiectau o dan £10,000
Am ragor o wybodaeth am y gronfa cysylltwch:
Ffôn: 01492 523855
Newyddlen Haf 2020
Newyddlen cronfa ymateb i COVID19 Fferm Wynt Coedwig Clocaenog
Cronfa Adfer Covid-19 Fferm Wynt Coedwig Clocaenog