Cynnig Cymraeg CGGC

Mae CGGC yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth cyflawn dwyieithog ym mhob agwedd o waith y cwmni yn cynnwys darpariaeth i'r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth a staff.

Dyma ein Cynnig Cymraeg:

  1. Gallwch ddarllen ein holl ddeunydd marchnata ar gyfer prosiectau yn y Gymraeg gan eu bod yn cael eu hargraffu'n ddwyieithog.
  2. Gallwch edrych ar ein gwefan a chysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol yn y Gymraeg gan fod ein gwefan yn ddwyieithog a'n cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol yn cael ei bostio'n ddwyieithog.
  3. Os byddwch yn ein ffonio neu'n ysgrifennu atom yn y Gymraeg, byddwn yn delio â'ch ymholiad yn y Gymraeg.
  4. Mae croeso i chi gyfrannu yn y Gymraeg yn ein digwyddiadau gan ein bod yn darparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd.
  5. Rydym yn falch o fod â staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr sy'n siarad Cymraeg, cadwch lygad am y logo Iaith Gwaith. Rydym hefyd yn sicrhau mynediad i Staff, Gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr dderbyn Hyfforddiant a Datblygiad yn y Gymraeg.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397