Ysgol Pant Pastynog
Cart y Plwyf

Yn 2022 roedd bws mini cymunedol hynod o boblogaidd ‘Cart y Plwyf’ yn dod I ddiwedd ei oes.

Roedd ‘Cart y Plwyf’ yn adnodd hynod o bwysig I’r gymuned wledig yma yn enwedig gan fod cludiant cyhoeddus I’r ardal yn gyfyngedig.Felly fe wnaeth Ysgol Pant Pastynog gais i’r gronfa am £25,281.73 er mwyn prynu bws mini newydd fydd er budd yr ysgol ynghyd a’r gymuned, a byddai’r ysgol yn cymryd cyfrifoldeb dros redeg y bws ynghyd a chalendar archebu y bws mini.  

Erbyn hyn mae 5 aelod o staff yr ysgol yngyd a 4 gwirfoddolwr cymunedol yn gallu gyrru’r bws mini, gyda 8 gwirfoddolwr arall yn gwneud prawf gyrru bws mini.

Mae’r bws yma yn adnodd gwych I’r gymuned, nid yn unig mae’n lleihau costau’r ysgol ar gael tacsi, ond hefyd yn galluogi unigolion I fynd ar daith siopa ac I fudiadau fynd ar deithiau heb orfod talu yn ormodol. Mae'r bws mini yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau cymunedol a gweithgareddau allgyrsiol, gan gryfhau cysylltiadau rhwng yr ysgol a'r gymuned leol.

Dywedodd y Pennaeth Meirion Edwards:

Rydym yn hynod o ddiolchgar i Gronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog am eu cymorth cyllidol tuag at brynu Bws Mini Newydd i’r Ysgol ac i’r gymuned. Ers i’r bws gyrraedd, mae pob dosbarth wedi gwneud defnydd o’r bws - Meithrin/Derbyn taith i Tweedmill fel rhan o’i gwaith thema, mae’r Cylch wedi mynd a phlant i Brenig ac rydym wedi mynd a phlant Cyfnod Allweddol 2 i 3 gystadleuaeth chwaraeon. Ar hyn o bryd, rydym yn cefnogi aelodau o’r gymuned i allu gyrru’r bws ac wedi creu dyddiadur ar lein fel bod y Gymuned yn gallu trefnu teithiau yn fuan.”

Erbyn hyn mae’r grwpiau cymunedol wedi ail gychwyn ddefnyddio’r ‘Cart y Plwyf’ newydd, ac mae Merched y Wawr wedi gwneud defnydd ohoni wrth fynd i Glyn y Weddw ym Mhwllheli, ac fe aeth cymdogion Cymdeithas Maes y Plwm a hi i Lerpwl i weld yr amgueddfeydd yn fan hynny.

Mae'r prosiect hwn yn enghraifft berffaith o sut y gall ysgol wledig, gyda chefnogaeth gan ei chymuned, oresgyn heriau i ddarparu cyfleoedd addysgol gwell i'w disgyblion. Mae'r bws mini newydd wedi bod yn fuddsoddiad gwerthfawr, nid yn unig i'r ysgol, ond i'r gymuned ehangach hefyd. Mae'r astudiaeth achos hon yn dangos pwysigrwydd cydweithio a chynllunio strategol mewn ardaloedd gwledig i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i gyrraedd ei lawn botensial.

 

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397