Linda Tavernor

O’r chwith i’r dde :  Paul Tavernor, Linda Tavernor a Stuart Farnell

Cyngor Ariannol Cymuned Abergele

“Y glud sy’n ein dal ynghyd”

Weithiau, mae unigolyn eithriadol yn dod i’r fei – rhywun gallwch chi droi ato bob amser, a fydd yn cael trefn ar bethau ac yn cael y maen i’r wal. Yn lwcus i bobl Abergele, mae’r person hwnnw yn eu mysg – Linda Tavernor.

Linda Tavernor yw ysgrifennydd cwmni Gweithredu Cymunedol Abergele. Sefydlodd Gweithredu Ieuenctid Abergele (a ddaeth yn Gweithredu Cymunedol Abergele) yn 2001 fel prosiect cynhwysiant i bobl ifanc. Yn 2005, sefydlodd Linda gaffi rhyngrwyd a chanolfan gymunedol o’r enw Itaca i weithio ochr yn ochr â’r prosiect ieuenctid i roi mynediad i gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd, a sgiliau cyfrifiadurol, i’r gymuned. Yn 2016, cafodd Gweithredu Cymunedol Abergele gyllid gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr i wneud yn siŵr bod prosiect Itaca yn goroesi. 

Yn 2019, cafodd Sied Ieuenctid Abergele ei sefydlu mewn partneriaeth â Youth Shedz Cymru. Mae’r Sied Ieuenctid yn fan diogel i bobl ifanc rhwng 10 a 25 oed yn Abergele sydd wedi’u heithrio o gyfleoedd cymdeithasol, neu sydd mewn perygl o hynny, gymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladol sydd wedi’u dewis gan y bobl ifanc ar gyfer y bobl ifanc. Cafodd y gwaith adnewyddu wrth ymyl Ysgol Emrys ap Iwan, a hwylusodd y broses o sefydlu’r Sied Ieuenctid, ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr.

Ymysg llwyddiannau eraill Linda mae Bwyd Banc Rhanbarth Abergele, a sefydlwyd gan Linda yn 2013 ac sy’n gysylltiedig ag Ymddiriedolaeth Trussel. Y llynedd, roedd y bwyd banc wedi darparu 1,376 o becynnau bwyd brys i bobl yn y gymuned. Yn 2022, dyfarnodd Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr a Chronfa Gymunedol Gwastadeddau'r Rhyl gyfanswm o £60,000 i gyflogi dau gydlynydd i’r bwyd banc am gyfnod o dair blynedd.

Ac i gloi, yn 2018 cafodd y gwasanaeth ‘Cyngor Ariannol Cymuned Abergele’ ei lansio, sy’n gysylltiedig â’r sefydliad cenedlaethol Community Money Advice. Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu cyngor ariannol cyfrinachol am ddim i bobl yn y gymuned, gan gynnwys rheoli dyled. Mae Cyngor Ariannol Cymuned Abergele wedi rhoi cymorth i gleientiaid â chyfanswm o £906,280.00 mewn dyledion, gan gynnwys sicrhau dau fethdaliad, 30 o Orchmynion Rhyddhau o Ddyled, un Trefniant Gwirfoddol Unigol, a thri Chynllun Rheoli Dyled. Mae Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr wedi cyfrannu dros £50,000 at redeg y gwasanaeth hwn hyd yma.

Linda Tavernor ei hun sy’n goruchwylio pob prosiect dan ymbarél Gweithredu Cymunedol Abergele. Linda sy’n rheoli cyllid pob prosiect hefyd, gan gynnwys gwneud cais am gyllid. Gan fod Gweithredu Cymunedol Abergele yn dibynnu bron yn llwyr ar gyllid grant, mae’r gwaith hwn yn hollbwysig. Mae hefyd yn trefnu’r holl gyfarfodydd i Ymddiriedolwyr. Saff dweud na fyddai’r gwasanaethau cymunedol hyn mae Gweithredu Cymunedol Abergele yn eu darparu yn bosib heb waith caled Linda.
Mae 90 o bobl ifanc yn mynychu Sied Ieuenctid Abergele bob wythnos ac mae gan y gwasanaeth Cyngor Ariannol Cymunedol lwyth achosion o 116 o bobl ar hyn o bryd. Mae Bwyd Banc Rhanbarth Abergele yn darparu gwasanaeth hollbwysig i’r gymuned, gan roi pecynnau bwyd brys i dros 13,393 o bobl ers 2013. Mae’r galw am y banc bwyd yn debygol o godi o ganlyniad i’r argyfwng costau byw a bydd yn bwysicach nag erioed. Eithriadol? Heb os. Ond i Linda – elfennol.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397