Elusen Aloud

Derbyniodd Elusen Aloud arian gan gronfa Gymunedol Gwynt y Môr i ddarparu Ymarfer Rhanbarthol Only Boys Aloud yng Nghanolfan ASK yn y Rhyl ar y 18fed o Dachwedd 2023.

Yn ystod yr ymarfer, ymunodd aelodau côr Only Boys Aloud yn y Rhyl gydag aelodau côr o gôr Only Boys Aloud eraill yng Ngogledd Cymru (Wrecsam a Bangor) am ddiwrnod o weithgareddau gweithdy. Bydd hyn yn rhoi cyfle i aelodau côr Only Boys Aloud yn y Rhyl ddatblygu perthynas gadarnhaol gref gyda'u cyfoedion a gwneud ffrindiau newydd.

“Gwych oedd cael holl aelodau Gogledd Cymru o Only Boys Aloud at ei gilydd am y tro cyntaf ers dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.

Mae ymarfer yn y Ganolfan Ask yn bleser bob tro. Wedi’i lleoli yng nghanol y Rhyl yn ymyl lan y môr, mae’n lleoliad mor gyfeillgar, croesawgar a hwylus i’w ddefnyddio ac mae’n darparu cefnogaeth hanfodol i’r gymuned.

Calonogol iawn oedd gweld ein haelodau mwyaf newydd o bob un o’r tri grŵp OBA (Y Rhyl, Bangor a Wrecsam) yn ymwneud â’i gilydd a chyda’n haelodau hŷn, mwy profiadol a roddodd groeso cynnes i’r newydd-ddyfodiaid ac a fabwysiadodd, yn naturiol, eu rolau fel mentoriaid cymheiriaid. Mae wedi bod yn gyfnod heriol i sector y Celfyddydau yn ddiweddar, ac er gwaethaf rhwystrau sylweddol i’r rhaglen recriwtio, mae’n ddi-amheuol bod gweld pŵer cerddoriaeth yn uno grŵp o ddynion ifanc o bob cefndir yn rhoi boddhad i ni fel staff Elusen Aloud, Arweinwyr Côr a gwirfoddolwyr.

Yn dilyn gweithgareddau a chaneuon hwyliog i gynhesu’r llais, gweithiodd yr hogiau yn galed ar ddarnau i baratoi ar gyfer ein perfformiad yn Eglwys Sant Paul, Bae Colwyn ar 9 Rhagfyr ac roeddent yn cymryd rhan lawn yn ystod y sesiynau a arweiniwyd gan ein tîm ymroddedig o Arweinwyr Côr ac a gefnogwyd gan ein Harweinydd Cymunedol gwych. Fe lwyddon ni hefyd i recordio fideo ohonom yn canu cân a fydd yn cael ei olygu i gynnwys clipiau o’n holl gorau OBA drwy Gymru – rydym bob amser yn edrych ymlaen at weld y canlyniad terfynol!” 

Aled Evans, Rheolwr Prosiect: Gogledd Cymru

Gallwch ddarllen mwy am y prosiect ar wefan Elusen Aloud: Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr yn cefnogi creu cerddoriaeth yn y Rhyl! - Aloud

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397