Gwasanaeth Cam-drin Domestig Aberconwy

Y cynllun prosiect gwreiddiol oedd creu 2 Leoliad Myfyrwyr. Oherwydd cyfyngiadau ar gapasiti myfyrwyr canfuwyd yn gyflym y byddai angen mwy na 2 fyfyriwr i gyflenwi'r oriau a gwneud defnydd llawn o'r gofod cwnsela. Cyfrannodd cyfanswm o 8 myfyriwr + 1 yn benodol ar gyfer cleientiaid dros y ffôn, ar raglen dreigl o leoliadau, at yr adran yn ystod blwyddyn y prosiect yma.

Darparwyd cyfanswm o 506 o oriau o gwnsela, gan gefnogi cyfanswm o 80 o gleientiaid. Yn gyffredinol, bu gostyngiad o 66% ar gyfartaledd yn y gofid seicolegol mae cleientiaid yn ei brofi. Fodd bynnag, mae hyn braidd yn gamarweiniol gan fod y ddwy ffurflen yn defnyddio ystodau asesu gwahanol ac mae pob cleient yn dechrau ar wahanol bwyntiau. Un ffordd arall y gellid ei fesur yw drwy ddatgan bod 100% o’r cleientiaid yn yr ystod iach yn feddyliol erbyn diwedd y therapi.

Mae llwyddiant cyflym yr adran cwnsela oedolion wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau. Mae'r gwaith wedi cael ei gydlynu'n effeithlon iawn, gyda thosturi a gofal ar gyfer y cleientiaid a’r myfyrwyr sy’n cwnsela. Mae wedi ein galluogi ni fel gwasanaeth amlochrog i adlewyrchu ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud ac ychwanegu gwerth. Rydyn ni’n arbennig o falch o’r ffordd y mae’r cwnsela’n cydblethu mor dda gyda’n gweithgareddau eraill ni, fel cwrs The Own My Life – gan alluogi mwy o gyfleoedd i groesgyfeirio ac felly cryfhau’r gwaith therapiwtig rydyn ni’n ei wneud yn ei gyfanrwydd. Mae'r prosiect wedi cryfhau ein cysylltiadau ni ag asiantaethau partneriaeth ac wedi codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth gyda llawer o ddarparwyr addysg lleol.

 

“Rydw i’n teimlo fy mod i wedi elwa’n fawr o’r cwnsela ac mae wedi fy helpu i wneud newidiadau cadarnhaol yn fy mywyd a fy mherthnasoedd”.

“Heb y gefnogaeth yma fe fyddwn i wedi mynd yn ôl i’r dechrau a threulio mwy o flynyddoedd mewn perthynas lle roeddwn i’n cael fy ngham-drin”.

“Fe achubodd fy mherthynas i gyda fy mhlant. Rydw i'n teimlo fel person cwbl wahanol nawr”.

“Rydw i nawr yn teimlo bod gen i’r adnoddau i ddal ati i symud ymlaen. Mae hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar fy merched i”.

“Fe gefais i lawer mwy o wybodaeth am ymddygiadau ac fe roddodd eglurder i mi”.  

“Mae fy ffiniau i gymaint yn gryfach nawr”.

“Mae gen i gymaint mwy o hyder nawr. Rydw i wedi dod o hyd i fy llais!”.

“Roeddwn i’n teimlo fy mod i wir yn bwysig o'r cyswllt cyntaf gyda'r gwasanaeth”.

Adborth gan gleientiaid

Adborth gan Asiantaethau Cyfeirio:

“Diolch yn fawr iawn am gysylltu â fy nghleient i, XXXXXX, a chynnig cwnsela mor fuan ar ôl fy atgyfeiriad i. Fe wnes i siarad gyda hi heddiw ac fe ddywedodd ei bod wedi cael sesiwn gyda chi ac yn teimlo ei fod yn gadarnhaol. Bydd hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’w hiechyd meddwl hi a’i gallu i brosesu’r cam-drin domestig y mae hi wedi’i ddioddef.” Ceri Owen, Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol.

“Rydw i wedi bod yn cyfeirio fy nghleientiaid i at eich gwasanaeth chi ers peth amser ac wedi gweld effaith gadarnhaol eich gwasanaeth ar fywydau llawer o ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig.

Rydw i’n credu bod eich gwasanaeth chi’n hanfodol ar gyfer mynd i'r afael ag anghenion brys a chymhleth ein cleientiaid ni. Mae eich gwasanaeth chi’n darparu gwasanaeth effeithlon a diogel i gynorthwyo a chefnogi ein cleientiaid ni.

Claire Waters Bannister IDV

Roedd yn dda gwybod bod rhywun yn yr adeilad bob amser tra oeddwn i’n gweithio, y gallwn i droi ato i ofyn am gyngor neu os oedd argyfwng.”

“Wir yn gwerthfawrogi pa mor gyflym oedd y cydlynydd yn ymateb i unrhyw ymholiadau.”

“Rydw i wedi bod wrth fy modd yn gweld yr ystafell gwnsela a’i hadnoddau’n datblygu tra rydw i wedi bod yn y lleoliad. Mae’n amgylchedd mor hyfryd i weithio ynddo.”

“Mae’r llawlyfr hyfforddiant a’r canllawiau myfyrwyr wedi bod yn ardderchog. Yn glir iawn a phob cwestiwn wedi'i ragweld a'i ateb”.

Adborth gan y Myfyrwyr oedd yn Cwnsela

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397