Darparu prydau maethlon i staff rheng flaen y GIG yn ystod pandemig y Coronafeirws
Mae £5,000 o Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr, ochr yn ochr â chyllid gan Sefydliad Stephen Morgan, wedi helpu i ofalu am staff y GIG yn ystod y pandemig. Aeth tuag at brosiect gyda'r nod o ddarparu 12,500 o brydau maethlon i staff rheng flaen sy'n gweithio mewn Unedau Gofal Dwys ac Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys lleol.
Mae'r prosiect wedi’i sefydlu diolch i bartneriaeth unigryw rhwng y sector preifat, Dylans, cadwyn o fwytai yng Ngogledd Cymru, a Crest Cooperative, menter gymdeithasol leol, ac mae'n dangos sut mae pobl o bob rhan o gymdeithas yn dod at ei gilydd i helpu yn y frwydr yn erbyn COVID-19.
"Ar ran y staff gofal critigol, fe hoffwn i ddiolch yn ffurfiol i chi am eich caredigrwydd wrth ddarparu bocsys bwyd a phrydau poeth i'n staff. Mae wedi bod mor galonogol ac felly'n cael ei werthfawrogi gan yr holl dîm. Mae'r arwydd yma o garedigrwydd yn codi morâl staff yn aruthrol wrth iddynt weithio mewn cyfnod mor anodd a heriol."
Ysbyty Gwynedd Hospital
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG