Cyflwynwyd tystysgrifau diolchgarwch Gwirfoddoli CGGC i wirfoddolwyr Youth Shedz, John Roberts, Angela Lloyd a Sonia Nicholson. Gyda'i gilydd, maent wedi cefnogi Youth Shedz gyda thua 250 o oriau o wirfoddoli, gan gynnal cwisiau a sgyrsiau a chadw mewn cysylltiad â’r ieuenctid yn ystod y cyfnod clo... yn ogystal â mynychu Siediau sydd wedi ailagor ers yr Hydref yn gyson i sicrhau bod gweithgareddau ar gael.
Mae hyn wedi cynnwys datblygu Shed Space ym Mlaenau Ffestiniog (lle tynnwyd y llun yma!), a gwneud rhywfaint o waith allgymorth gyda phobl iau yno, yn rhoi sylw i ddiogelwch ar feiciau yn y nos, a hefyd cynlluniau cyffrous ar gyfer casglu sbwriel a phlannu coed ar gyfer y gymuned!
Ers hynny mae'r gwirfoddolwyr Angela Lloyd a Sonia Nicholson wedi dechrau 8 awr o gyflogaeth gyda thâl gyda Youth Shedz.
Edrychwch ar y cyfleoedd gwirfoddoli sydd wedi'u cofrestru gyda Youth Shedz: www.volunteering-wales.net
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG