Ty Gobaith

ASTUDIAETH ACHOS BABI 1

Cafodd rhieni eu cyfeirio at Dŷ Gobaith o ganolfan feddygaeth drydyddol y ffetws ar ôl y sgan anomaledd 20 wythnos pan gadarnhawyd bod cyflwr calon cymhleth iawn ar eu babi heb ei eni.

Cawsant gefnogaeth drwy gydol gweddill y beichiogrwydd mewn apwyntiadau, a threulio amser yn dod i adnabod y teulu a deall eu dymuniadau, gan obeithio ar yr un pryd am y canlyniad gorau ond yn paratoi ar gyfer y gwaethaf.

Ar ôl genedigaeth y babi, aethon ni i’r ysbyty i gefnogi’r rhieni. Roedd angen cymorth anadlol arno a nifer o gyffuriau cynnal bywyd yn ystod y cyfnod hwn.

Cadarnhaodd y tîm meddygol bod cyflwr y babi mor gymhleth fel nad oedd unrhyw weithdrefnau llawfeddygol a allai gynnig unrhyw siawns o fywyd.

Roeddem eisoes wedi trafod eu dymuniadau ar gyfer y sefyllfa ddinistriol yma, ac nid oedd eu meddyliau wedi newid. Roeddent eisiau dod â'u babi i Dŷ Gobaith i gael gofal diwedd oes.

Gan weithio ar y cyd â’r ysbyty, trefnwyd i Babi 1 a’i deulu gael eu trosglwyddo i Dŷ Gobaith lle gallai ei deulu estynedig ddod i’w gyfarfod am y tro cyntaf a threulio peth amser gyda’i gilydd fel teulu.

Bu Babi 1 fyw am ddiwrnod yn Nhŷ Gobaith, lle bu’n treulio’r amser mewn amgylchedd cartrefol gyda’i rieni, a’u disgrifiad nhw oedd bod hyn wedi rhoi’r cyfle iddynt deimlo fel teulu go iawn, os mai dim ond am gyfnod byr oedd hynny.

Astudiaeth achos Babi 2

Cafodd Babi 2 ei eni yn ei dymor llawn, heb unrhyw bryderon hysbys cyn ei eni.

Ar ôl ei enedigaeth, roedd yn amlwg bod gan Babi 2 rai problemau sylweddol a oedd yn cyfyngu ar fywyd. Aethon ni i gyfarfod y teulu a chafodd y rhieni eu cyflwyno i'r syniad o gefnogaeth hosbis. Roedd ei rieni yn ofnus iawn am fynd ag ef adref, a threfnwyd iddynt ddod i Dŷ Gobaith o’r ysbyty am ofal ‘cam i lawr’ a threulio rhywfaint o amser yn gofalu am y babi ond hefyd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan y tîm gofal cymaint neu gyn lleied ag yr oedd ei angen arnynt. Ar ôl ychydig ddyddiau roedden nhw'n teimlo'n ddigon hyderus i fynd â babi 2 adref gyda'r cymorth sydd ar gael iddynt yn y gymuned.

Yn drist iawn, ar ôl sawl mis, dirywiodd cyflwr y babi yn sydyn ac roedd angen ei gludo i ganolfan drydyddol. Er iddo gael yr holl ofal yno, ni lwyddodd babi 2 i wella o'r salwch yma a bu farw yn yr ysbyty. Roedd y rhieni wedi dymuno dod â babi 2 i Dŷ Gobaith i gael gofal diwedd oes ond nid oedd hyn yn bosibl oherwydd y dirywiad cyflym ac ansefydlogrwydd ei gyflwr.

Fodd bynnag, yn dilyn marwolaeth babi 2, gofynnodd ei rieni am gael dod ag ef i Dŷ Gobaith i dreulio rhywfaint o amser yno. Roedd hyn yn gofyn am gydweithio rhwng yr ysbyty, Tẏ Gobaith a'r gymuned i sicrhau trosglwyddo esmwyth o’r ysbyty i’r hosbis. Ar ôl cyrraedd Tŷ Gobaith, roedd y teulu yn gallu treulio amser mewn awyrgylch cartrefol gyda theulu estynedig o'u cwmpas. Fe wnaethon nhw aros am ychydig ddyddiau yn rhagor gyda babi 2 yn defnyddio'r cot oer, a roddodd amser iddyn nhw ddweud eu ffarwel olaf a pharatoi ar gyfer ei angladd a chael cefnogaeth ymarferol ac emosiynol. Cafodd y teulu gymorth profedigaeth a chwnsela rheolaidd yn dilyn marwolaeth babi 2. Maent bellach yn cefnogi Tŷ Gobaith drwy godi arian yn rheolaidd a mynychu digwyddiadau.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397