Clwb Gymnasteg Grays

Yn 2019, dyfarnwyd grantiau i Glwb Gymnasteg Grays o Gronfeydd Cymunedol Fferm Wynt Gwynt y Môr a Fferm Wynt Gwastadeddau’r Rhyl i adnewyddu eu hadeilad newydd. Yn flaenorol roedd y clwb yn gweithredu allan o 6 chanolfan hamdden wahanol ar draws Conwy a Sir Ddinbych, gydag aelodaeth o 500 o gymnastwyr. Gwelodd y clwb fod angen sefydlu canolfan barhaol. Roedd ganddo restr aros o fwy na 350 o bobl, a'i nod oedd ei lleihau drwy ddefnyddio'r safle newydd i gynnal dosbarthiadau hamdden ychwanegol, gan gynnwys dosbarthiadau rhieni a phlant bach, oedolion ac ysgolion lleol. Roeddent hefyd yn bwriadu hyfforddi mwy o wirfoddolwyr ar gyfer y clwb a chael 2 aelod i gymhwyso fel arweinwyr chwaraeon.

Dyfarnwyd £9,120.00 i Glwb Gymnasteg Grays gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwynt y Môr ar gyfer carpedi ar gyfer y cyfleuster hyfforddi newydd. Roedd hon yn dasg fawr, gan fod angen lloriau newydd ar sawl rhan o'r adeilad. Byddai hyn yn sicrhau bod y ganolfan yn fwy ynni effeithlon drwy haen ychwanegol o inswleiddio, a fyddai'n lleihau’r costau rhedeg.

Dyfarnwyd £5,839.20 i'r clwb gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwastadeddau'r Rhyl ar gyfer boeler newydd. Roedd angen gwaith sylweddol ar eu hadeilad newydd er mwyn i'r clwb allu ei ddefnyddio. Roedd y boeler presennol wedi’i gondemnio, ac i ddiwallu anghenion y clwb, roedd angen boeler newydd, tanwydd effeithlon. Byddai hyn yn sicrhau na fyddai unrhyw ynni’n cael ei wastraffu, gan fod posib ei reoli i gyflenwi gwres i ardaloedd penodol a byddai'n sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau iechyd a diogelwch ar gyfer staff, unigolion a'r cyhoedd.

Roedd y gwaith adnewyddu wedi'i gynllunio i gael ei wneud yn 2019. Yn anffodus, oherwydd pandemig Covid-19, gohiriwyd y prosiect. Mae'r boeler a'r carpedi newydd yn eu lle bellach ac mae'r prosiect wedi'i gwblhau.

“Mae gallu darparu cyfleuster gymnasteg diogel a pharhaol i’n gymnastwyr ni wedi golygu y gallwn ni fel clwb, ac i’r gymnastwyr yn bersonol, weithio tuag at a chyflawni ein nodau yn ogystal â darparu amgylchedd creadigol a hwyliog i’r gymuned leol”.

Aelod, Clwb Gymnasteg Grays

Gan adeiladu ar ei gynnydd hyd yn hyn, mae'r clwb yn gobeithio datblygu cyfleusterau i hyfforddi hyfforddwyr a darparu gymnasteg anabledd. Yn ogystal, mae’n gobeithio y gall, yn y dyfodol, gyflwyno “dosbarthiadau rhedeg rhydd”, gan fod y clwb yn credu y bydd hyn yn denu aelodaeth wahanol i gymnasteg draddodiadol.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397