Clwb Colwyn Gateway: Ymweliad â Blackpool

Ym mis Medi 2022, fe ddyfarnwyd £1000.00 i Glwb Gateway Colwyn gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwynt y Môr i fynychu’r sioe ‘Viva! Blackpool' yn Blackpool tra oedden nhw ar eu trip blynyddol. Prif nod y trip yw bod yn wyliau i’r aelodau a’r staff cefnogi, gan ddarparu ysbaid i rieni a gofalwyr yr aelodau.

Roedd y trip yn llwyddiant ysgubol! Fe fynychodd 60 o bobl y trip, gan gynnwys gwirfoddolwyr, aelodau, a staff cefnogi. Sylwodd y staff cefnogi bod yr aelodau sydd fel arfer yn fwy swil ac yn fewnblyg yn ystod y cyfarfodydd rheolaidd yn gwneud mwy â'r aelodau eraill ac wedi dod allan o'u cragen ar y trip.

Dywedodd rhiant un o’r aelodau a fynychodd y trip gyda’i fab ei bod yn un o wythnosau gorau ei fywyd, a bod gweld y gefnogaeth a’r anogaeth a roddwyd i’w fab yn wych!

“Mae ein clwb ni'n fwrlwm o siarad am y trip ac mae ein grŵp WhatsApp yn llawn lluniau gwych o’r wythnos. Rydyn ni eisoes wedi archebu lle ar gyfer 2023.

Diolch yn fawr iawn am eich grant chi i helpu i wneud hyn yn bosibl”.

Cadeirydd, Clwb Colwyn Gateway

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397