Derbyniodd DangerPoint grant Gwynt y Môr o £162,000 i gyflwyno rhaglen addysg diogelwch cymunedol ac ysgolion dros gyfnod o bum mlynedd.
Mae’r Prosiect Diogelwch Arfordirol hwn yn darparu teithiau rhyngweithiol mewn canolfan unigryw o fewn Ardal o Fudd Gwynt y Môr. Yn ystod cyfnod y prosiect addysgodd y cynllun fwy na 9,500 o ymwelwyr, gan ddarparu profiad sgiliau bywyd cynhwysol a rhyngweithiol i’w trwytho mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn mewn ffordd hwyliog a chreadigol.
Roeddent yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddatblygu sgiliau sy’n eu cefnogi i wneud dewisiadau cadarnhaol a rheoli senarios ‘perygl’ yn hyderus yn y dyfodol.
Nod y prosiect oedd cefnogi ymwelwyr i ddatblygu eu gwytnwch tuag at ystod o faterion gan gynnwys diogelwch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, byw yn gynaliadwy, a lles, fel eu bod yn barod ar gyfer yr heriau a'r rhwystrau y gallent eu hwynebu yn y dyfodol, gan helpu i feithrin cymunedau cadarn a chynaliadwy.
“Rydyn ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom ni gan brosiect Gwynt y Môr.
Mae'r cyllid yma’n ein galluogi ni i gefnogi ein cymuned i gael mynediad at ein darpariaeth mewn ffordd sy'n hygyrch i bawb.
Mae Gwynt y Môr mor gefnogol i ni fel Elusen a’r hyn rydyn ni’n ei gyflawni, ac rydyn ni mor ddiolchgar ein bod ni’n parhau i adeiladu ar ein perthynas.
Dyfyniadau gan fuddiolwyr -
"Fe alluogodd y cyllid ein plant ni i fynd ar eu trip ysgol cyntaf mewn 2 flynedd. Mae’n dal i fod yn gyfnod anodd iawn i lawer o rieni, felly mae lleddfu baich ariannol trip ysgol wedi helpu’n aruthrol. Yn ogystal, mae'r sgiliau a ddysgwyd i'r plant heddiw yn sgiliau bywyd ac ar ôl cyfnod mor bell i ffwrdd o gymdeithas, mae hyn wedi dod ar yr amser perffaith. Diolch yn fawr”
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG