Oriel Mostyn

Mae Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr yn ymfalchïo yn y prosiectau eang ac amrywiol sy’n cael eu cyllido yn ystod unrhyw flwyddyn; nid yw 2022 yn eithriad. Yn ystod haf ‘22’ fe wnaethom ni gyllido Oriel Mostyn (£5,000 o grant) i gyflwyno prosiect celfyddydau cymunedol, treftadaeth ac amgylcheddol o’r enw Cwrdd â Mi Wrth yr Afon.

Yn yr arddangosfa ryngweithiol yma fe  welwyd gwaith celf cydweithredol a gynhyrchwyd gan grŵp Cwrdd â Mi Wrth yr Afon a’r artist Frances Disley a gysylltodd gynulleidfa eang â thirwedd Gwynt y Môr a Gogledd Cymru.

Creodd Cwrdd â Mi Wrth yr Afon gerfluniau, ffilmiau a thecstilau a gafodd eu harddangos i gyd yn Oriel Mostyn ynghyd â gweithgareddau yng ‘Ngofod Prosiect yr Oriel’. Roedd hwn yn ofod rhyngweithiol hamddenol a oedd yn cynnig paent wedi’i wneud o bigmentau naturiol, planhigion brodorol a meddyginiaethol, llyfrau Cymraeg a Saesneg am y dirwedd leol a chwyddwydrau i astudio rhywogaethau’n agos. Agorodd Gofod y Prosiect gelf gyfoes i grwpiau a theuluoedd drwy gyfranogiad a dulliau synhwyraidd. Anogwyd yr ymwelwyr i gymryd rhan ac arbrofi gyda'r gwahanol ddeunyddiau gyda chymorth artistiaid proffesiynol.

Roedd y prosiect hefyd yn cynnal gweithgareddau ychwanegol i grwpiau o Ganolfan Ddydd Canolfan Riviere, Barnardos, Cyswllt Conwy, Cymdeithas Edward Llwyd, Merched y Wawr a grŵp Well Women.

Edrychwch ar y sgyrsiau yn: https://mostyn.org/?post_type=event&p=224

Cofnododd y prosiect 2,234 o gyfranogwyr / ymgysylltu drwy’r Oriel gyda 73 o baentiadau pellach wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio paent a phigmentau naturiol.

Roedd adborth y prosiect yn cynnwys:

“Rydw i’n meddwl ei fod wedi bod yn brosiect gwych iawn – mae’r creadigrwydd a’r ffordd y mae’r tir rydw i’n gweithio ynddo ac yn gweithredu ynddo o safbwynt ecoleg, i weld beth sydd wedi’i greu o safbwynt artistig yn anhygoel. Mae harddwch pur y gwaith celf yn wych. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn sawl ffordd”

Gwaith Byd Natur, taith dywys o amgylch Gofod y Prosiect.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397