Gwinllan y Dyffryn
Yn 2021 derbyniodd Gwinllan y Dyffryn £15,482.10 tuag at wneud gwelliannau i ymwelwyr ar y safle.
Mae cwblhau'r gwaith adeiladu i'r ysgubor adfeiliedig a'r cyfleusterau i ymwelwyr bellach yn galluogi iddynt groesawu ymwelwyr ar gyfer sesiynnau blasu gwin a digwyddiadau.
Unwaith y bydd teithiau gwinllan yn cychwyn yn 2023, bydd cynorthwyydd yn cael ei recriwtio i weithio yn ystod adegau prysur yn y winllan ac i gymryd rhai o’r teithiau gan eu bod yn disgwyl galw mawr am y profiadau hyn.
Erbyn hyn gan eu bod wedi lansio eu gwin cyntaf maent wedi datblygu’r wefan ble gallwch archebu poteli gwin ynghyd ag archebu teithiau o amgylch y winllan. Mae rhai wedi bod yn mynychu'r teithiau yn barod ac mae’r adeilad ar ei newydd wedd yn wych ar gyfer sesiynnau blasu gwin.
Mae gwirfoddolwyr o'r ardal cyfagos wedi ymuno gyda hwy wrth yn eu cynorthwyo gyda'r cynhaeaf.
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG