Astudiaeth Achos Home-Start Cymru

Drwy Brosiect Cymorth Iechyd Meddwl gan Gymheiriaid Home-Start Cymru, mae staff / gwirfoddolwyr ymroddedig yn darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar rieni sy'n byw gyda heriau iechyd meddwl isel i ganolig yn ardal Gwynt y Môr drwy gynnig gwasanaethau cyfeillio, ymweliadau â'r cartref a sesiynau grŵp i fynd i'r afael â theimladau o unigedd a phryder ac i feithrin gwytnwch.

Roedd cefnogaeth Gwynt y Môr yn darparu cyllid ar gyfer swydd Cydlynydd Teulu yn gweithio 30 awr yr wythnos. Roedd y Cydlynydd yn derbyn ac yn prosesu atgyfeiriadau ac yn arwain y gwirfoddolwyr cymorth cymheiriaid.

Yn ystod ein prosiect, rydyn ni wedi gweld gwelliannau mawr yn iechyd meddwl a lles rhieni, yn ogystal â dulliau dysgu ac ymddygiad plant o ganlyniad. Drwy hwyluso lle ar gyfer cymorth cymheiriaid, mae teuluoedd wedi gallu ffurfio cysylltiadau cymdeithasol cryf a rhannu profiadau, arweiniad a chyngor gyda'i gilydd, gan gyfrannu at gymuned fwy cydlynol a theuluoedd mwy gwydn yn gyffredinol. Drwy ymyrryd yn gynnar lle mae teuluoedd yn arddangos arwyddion o gael trafferth gyda'u hiechyd meddwl ac ymlyniadau plant, mae ein cefnogaeth wedi atal yr angen am gymorth statudol lefel uwch drwy fynd i'r afael â'r materion hyn cyn iddynt ddirywio a darparu'r adnoddau i rieni fagu hyder a dod o hyd i atebion cynaliadwy ochr yn ochr â'u teulu, gan weithio hefyd i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs).

Drwy gydol y prosiect rydyn ni wedi dysgu ffyrdd o fod yn hyblyg ac addasu i anghenion a dewisiadau teuluoedd mewn ymateb i heriau a wynebir, fel cyfyngiadau oherwydd pandemig Covid-19, gan wella lefel y cymorth dan arweiniad unigolion yr oeddem yn gallu ei ddarparu i deuluoedd.

"Mae prosiect Gwynt y Môr wedi rhoi cyfle i mi gefnogi llawer o deuluoedd o ystod amrywiol o gefndiroedd. Mae hwn wedi bod yn brofiad hynod werth chweil gan fy mod wedi gallu helpu teuluoedd yn eu cyfnod o angen, eu gwylio nhw'n tyfu a gwella eu lles drwy ein cefnogaeth".

Joe Stafford, Cydlynydd Cymorth i Deuluoedd

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397