Astudiaeth Achos Crest

Nod ein prosiect cynhyrchu ynni solar oedd cynhyrchu ein pŵer adnewyddadwy ein hunain i alluogi ein cyfleuster WEEE / AATF yng Nghyffordd Llandudno i brofi'r holl offer domestig trydanol sydd wedi cael eu rhoi i ni neu sy'n ail-law; a drwy hynny, lleihau ein gorbenion a'n galluogi i gadw'r cynnyrch terfynol yn gystadleuol o ran prisiau ar gyfer ein sylfaen cwsmeriaid incwm isel yn bennaf.

Mae'r gefnogaeth i'r prosiect hwn gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr wedi gwneud cyfraniad sylweddol at sicrhau cynaliadwyedd hirdymor gweithrediad ailddefnyddio nwyddau gwyn Crest, a’n gallu i ddarparu nwyddau gwyn o safon, cost isel, wedi'u hadnewyddu i'r gymuned; yn enwedig i’r rhai ar incwm isel. Rhagwelwyd y byddai'r arbedion a wnaed o ran costau defnydd ynni yn ffafriol ar yr adeg y gwnaethom gynllunio'r prosiect; fodd bynnag, gyda'r costau ynni / byw cynyddol yn ddiweddar, mae'r prosiect wedi bod yn hanfodol i gadw gorbenion gweithredol Crest yn isel yn y cyfnod heriol hwn.

Ers cwblhau'r gosodiad, rydyn ni wedi gweld gostyngiad cyfartalog o 81% yn y defnydd o drydan prif gyflenwad; mae hyn yn amrywio'n sylweddol oherwydd y cyfuniad o dywydd a’r pŵer a ddefnyddir. Yn ddiweddar rydyn ni wedi gwneud rhywfaint o waith inswleiddio ychwanegol i leihau ein defnydd o ynni ymhellach.

Ar ben hynny, roedd buddsoddiad Gwynt y Môr yn ein prosiect yn ein galluogi i fuddsoddi'n hyderus i recriwtio 3 aelod o staff WEEE ychwanegol, gan arwain at fwy o gynhyrchiant o fewn adran WEEE, gan gynhyrchu mwy o offer domestig wedi'u hadnewyddu er budd y gymuned. Wedi'i gwerthu gyda gwarant 12 mis, mae pob eitem a gaiff ei gwerthu yn cynnig gwerth rhagorol am arian o'i gymharu â phrynu o’r newydd. Mae gwerthiant wedi bod yn cynyddu'n raddol wrth i'r argyfwng costau byw frathu'n ddyfnach ac rydyn ni'n cael mwy a mwy o atgyfeiriadau am nwyddau gwyn i unigolion / teuluoedd mewn argyfwng gan asiantaethau cymorth partner, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol.

Ers i'r prosiect ddechrau, rydyn ni wedi cynyddu ein gallu i brosesu offer 34%. Wrth i ni wella ein prosesau, credwn fod modd i ni gyrraedd cynnydd o 40%.

"Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn gweithio'n agos gyda Crest ers tro i allu darparu nwyddau gwyn a phecynnau dodrefn i unigolion sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Mae'r nwyddau bob amser o safon uchel iawn ac o ansawdd eithriadol am arian. Mae'r tîm yn y gweithdy ac ar y faniau dosbarthu yn barod iawn eu cymwynas, gan sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu nwyddau cyn gynted â phosib".

Faye Willet, Gwasanaeth Ieuenctid Conwy.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397