Gofal Canser Tenovus

Darparodd y prosiect gymorth canser arbenigol i bobl oedd wedi’u heffeithio gan ganser yn ardal Gwynt y Môr, heb ystyried unrhyw nodweddion eraill oedd ganddynt: Llinell Gymorth Canser Rhadffon 365 diwrnod y flwyddyn dan arweiniad nyrs, Galw’n Ôl ar gyfer cleifion allanol gan nyrs canser mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, côr Canu Gyda Ni rhithwir, a Thele-ffrind.

Roedd y cyfnod a ariannwyd yn gyfnod o straen a phryder ychwanegol sylweddol i'r rhai oedd eisoes wedi cael diagnosis o ganser a'r rhai â symptomau heb gael diagnosis oedd yn ddangosyddion posibl y salwch. Roedd y Llinell Gymorth a’r gwasanaethau Galw’n Ôl i gleifion allanol yn arbennig o bwysig, gan ddarparu mynediad at wybodaeth a chyngor gan nyrsys canser profiadol ar adeg pan gafodd diagnosis a thriniaeth eu gohirio oherwydd bod llawer o wasanaethau canser y GIG wedi’u hailbwrpasu. Roedd y ddarpariaeth barhaus o ymarferion wythnosol côr Canu Gyda Ni ar Zoom – gyda sesiynau niferus yn agored i bawb bob wythnos – yn amhrisiadwy o ran lleihau’r ymdeimlad o unigrwydd ac ynysu sy’n cael eu profi gan bobl yr effeithir arnynt gan ganser. Yn yr un modd, roedd y gwasanaeth Tele-ffrind newydd, mewn ymateb uniongyrchol i’r cyfnod clo, yn darparu sgwrs un i un wythnosol am hanner awr am unrhyw beth gyda gwirfoddolwr hyfforddedig, gan ddarparu cyswllt cymdeithasol a mynediad i wybodaeth am y gwasanaethau cymorth cyfannol sydd ar gael. Byddai'r holl staff a’r gwirfoddolwyr yn cyfeirio at gydweithwyr pan fyddai angen unrhyw gymorth a ddarperir gan Tenovus gan gleient ac yn cyfeirio neu'n atgyfeirio at drydydd darparwr neu ddarparwr statudol pan fyddent hwy yn darparu cymorth mewnol. Cyfrannodd pob un o’r pedwar gwasanaeth cefnogi at gynaliadwyedd a chydraddoldeb cymunedau yn ystod y cyfnod clo drwy roi mynediad i unrhyw un yr effeithiwyd arno gan ganser i gymorth arbenigol angenrheidiol.

Mewn un achos penodol, “Derbyniodd gŵr 59 oed… gyda chanser metastatig y prostad 7 galwad ffôn wedi’u hamserlennu gan ein gwasanaeth Galw’n Ôl gan nyrs canser. Mae’n gwybod y gall ffonio ein Llinell Gymorth unrhyw bryd yn y dyfodol ac mae bellach wedi gwneud cais i ymuno â’n Cymuned Ganser Cymru Gyfan (AWCC)”.

Mae Cymuned Ganser Cymru Gyfan yn rhoi cyfle i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser yng Nghymru rannu materion sy’n bwysig iddyn nhw a rhannu eu profiad o ganser gydag eraill.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397